Select Page

Yn ystod yr haf, mae tri chydweithiwr gwerthfawr wedi gadael eu rolau i ddechrau penodau newydd yn eu gyrfaoedd, a bydd pedwerydd cydweithiwr yn ein gadael yn fuan. 

Mae Tracey Stanley wedi gadael Prifysgol Caerdydd ac wedi dechrau gweithio fel ymgynghorydd annibynnol. Mae Jenny McNally wedi cychwyn swydd newydd fel Rheolwr Platfform Casgliadau’r Llyfrgell ym Mhrifysgol Manceinion. Mae Nicky Atkins yn gadael ei rôl fel Swyddog Prosiect System Rheoli Llyfrgelloedd WHELF, ac mae Alison Harding wedi ymddeol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dilyn gyrfa hir a nodedig mewn llyfrgelloedd academaidd. 

Hoffem ddiolch yn fawr i bob un ohonynt am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u cyfraniadau amhrisiadwy i WHELF ar hyd y blynyddoedd. Bu Tracey ac Alison hefyd yn Gadeiryddion WHELF yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan ddarparu arweinyddiaeth ystyrlon a thywys y Bwrdd drwy gyfnod o ansicrwydd a newid sylweddol. 

Er y byddwn ni’n gweld eisiau eu presenoldeb, eu harbenigedd a’u cyfeillgarwch yn fawr, dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i Tracey, Alison, Jenny a Nicky yn y dyfodol. Diolch yn fawr iddynt am eu holl gyfraniadau i WHELF.