Cynllun Rhyngfenthyca Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru+ (WHELF+)

Ym mis Ionawr 2018, daeth aelodau WHELF ynghyd i lansio cynllun benthyca dwyffordd rhwng llyfrgelloedd sy’n rhad ac am ddim. Gwnaed hyn yn bosib trwy ddefnyddio Ex-Libris Alma, sef system ar y cyd i reoli llyfrgelloedd; mae’n ein galluogi i ddefnyddio system graidd i fenthyca adnoddau print a digidol i’n gilydd, a hynny’n rhad ac am ddim.

Bu inni fonitro’r modd roedd y cynllun yn cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod peilot cychwynnol. Yn ogystal â hynny, ym mis Awst 2018, rhoddwyd system rota ag iddi haenau ar waith i sicrhau bod y cynllun wedi’i rannu’n deg o ran y ffordd roedd yn cael ei ddefnyddio. Mae’r rota hon bellach yn cael ei monitro gan Weithgor WHELF+ ac yn cael ei haddasu bob pedwar mis i ymateb i’r defnydd.

Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol; yn 2022 arbedodd y llyfrgelloedd sy’n aelodau o’r cynllun gyfanswm o bron i £44,000. Yn ogystal â’r budd ariannol diamheuol, mae hefyd wedi arwain at gynnydd sylweddol o ran cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng y sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Gan fod y cynllun wedi bod yn gymaint o lwyddiant, gyda chefnogaeth Ex-Libris a’r Llyfrgell Brydeinig, dechreuon ni gynnig i sefydliadau nad ydynt yn WHELF fod yn aelodau yn 2021 (dyna’r rheswm dros y ‘+’ yn ‘WHELF+’!). Erbyn hyn mae ugain sefydliad, sydd ar wasgar yn ddaearyddol a chanddynt ystod eang o arbenigeddau addysgu ac ymchwil, yn elwa ar fanteision aelodaeth WHELF+; ac wrth i ragor o sefydliadau fynegi diddordeb mewn ymuno â’r fforwm, a’r potensial o ddefnyddio adnodd newydd Alma i awtomeiddio prosesau ymhellach, mae dyfodol disglair gan y cynllun.

Darllenwch Gytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) WHELF+ i ddysgu rhagor am sut mae’r cynllun yn gweithio

Os hoffech chi wybod am y cynllun, ebostiwch Jenny McNally, Rheolwr Busnes WHELF LMS

Aelodau cyfredol WHELF+:

 

 

 

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caer-wynt

Prifysgol Cumbria

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Durham

Prifysgol Harper Adams

Prifysgol Kingston

Prifysgol Leeds

Prifysgol Lerpwl

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Northumbria

Prifysgol Salford

Prifysgol San Steffan

Prifysgol Wrecsam

Yr Amgueddfa Hanes Naturiol

Ysgol Economeg Llundain