Cynhaliwyd y Colloquium WHELF ar-lein dros ddau hanner diwrnod, ddydd Mawrth 13 a dydd Mercher 14 Mehefin 2023, 09:30 – 13:00.

Dathlu Pen-blwydd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn 30

Roedd y gynhadledd yn dathlu 30 mlynedd o Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru. Hoffem ddathlu prosiectau llwyddiannus sydd wedi cael eu cyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf, ac edrych yn ôl ar y ffordd yr ydym wedi datblygu ein gwasanaethau ar y cyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywed rhai bod bywyd megis dechrau yn 30 mlwydd oed, felly beth am edrych ar y cyfleoedd a’r heriau newydd sydd i ddod yn ystod 30 mlynedd nesaf WHELF.

Trefnwyd y digwyddiad WHELF hwn gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gyda diolch i JISC Cymru am y cymorth technegol.