Rhagfyr 2025
Mae Consortiwm WHELF wedi cymeradwyo’r Cod Moeseg Catalogio yn dilyn trafodaethau gan Grŵp Metadata WHELF.
Mae’r Cod yn amlinellu’r egwyddorion sy’n sail i’n dull o gasglu, asesu a chymhwyso gwybodaeth wrth greu metadata ar gyfer gweithiau ac unigolion. Mae’n egluro’r safonau rydym yn glynu atynt, y gwerthoedd sy’n arwain ein penderfyniadau, a’r disgwyliadau sy’n llywio ein harfer proffesiynol. Mae hyn yn sicrhau bod ein prosesau metadata yn parhau i fod yn gyson, yn dryloyw, ac yn cyd-fynd â fframweithiau catalogio cydnabyddedig.
Datganiad Cenhadaeth y Cod Moeseg
Ar gais eu haelodau ac er lles pob aelod o staff sy’n creu, rhannu, cyfoethogi a chynnal metadata, mae cymunedau catalogio yn yr Unol Daleithiau, Canada a’r Deyrnas Unedig wedi cael y dasg o lunio Cod Moeseg ar gyfer Catalogwyr.
Bydd yn ddogfen ddeinamig sy’n ymgorffori profiadau a doethineb ar y cyd ein cymuned ymarfer ac mi fydd yn cynnwys fframwaith, gyda chanllawiau ac enghreifftiau o arferion gorau, y gellir eu rhannu ledled y gymuned gatalogio.
Bydd y Cod yn brosiect cydweithredol a chynhwysol a reolir gan Bwyllgor Llywio Moeseg Catalogio a fydd yn cyfarwyddo nifer o Grwpiau Gwaith. MI fydd unigolion o sectorau daearyddol, ethnig a llyfrgellyddol amrywiol yn cael eu cynnwys.