Select Page

Yn dilyn adborth gan gydweithwyr, mae’n bleser gan WHELF gyhoeddi y cynhelir digwyddiad ar-lein yn ogystal â’r digwyddiad wyneb yn wyneb ar 25 Mawrth 2024 a hysbysebwyd yn ddiweddar.

Mae hyn yn golygu y ceir dau gyfle i ddod ynghyd i glywed, trafod a mireinio Strategaeth gyffrous WHELF ar gyfer y cyfnod nesaf 2024-2030 a sut y byddwn yn gwireddu rhai o’r uchelgeisiau cyffrous a fynegir ynddi:

Diwrnod Strategaeth WHELF(wyneb yn wyneb)

ATRiuM, PDC Caerdydd

25 Mawrth 2024

10:00 –15:00

 

Diwrnod Strategaeth WHELF (ar-lein)

Dydd Gwener 12 Ebrill 2024

09:30-13:30

Cod: mY^G8eQ412.04.2024