Select Page

Gwasanaethau Cwsmer

Sefydlwyd Grŵp Gwasanaethau Cwsmer WHELF ym mis Ebrill 2017 ac mae’n cynnwys grŵp ALIS (Gwasanaethau Gwybodaeth Llyfrgell Hygyrch) Cymru.

Nodau ac amcanion y Grŵp Gwasanaethau Cwsmer yw:
Trafod a rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd ym maes gwasanaethau cwsmer yn gyffredinol ac o fewn llyfrgelloedd yn fwy penodol.
Rhannu gwybodaeth a thechnegau ynghylch mesurau sydd ar waith mewn aelod lyfrgelloedd.
Trafod a datblygu dulliau ar gyfer gwella gwasanaethau cwsmer yn enwedig lle ceir potensial i gydweithio.
Bod yn ymwybodol o faterion ehangach ac ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y Deyrnas Unedig trwy Grŵp Rhwydweithio Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmer. CSE-STANDARD@JISCMAIL.AC.UK
Darparu cefnogaeth gydfuddiannol i lyfrgelloedd sy’n cyflwyno cais am gydnabyddiaeth trwy safonau gwasanaeth cwsmer gan gynnwys Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmer yn ogystal ag archwilio ystod o ddulliau ar gyfer sicrhau ansawdd mewn darparu gwasanaethau.
Datblygu cronfa meincnodi a hwyluso’r broses o gyflwyno data, gan arwain at ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol a fydd ar gael i bawb.
Adolygu cyfleoedd hyfforddiant a rennir i gefnogi cyflenwi Gwasanaethau Cwsmer ardderchog.
Cyflawni mesurau lle y gallwn gydweithio i wella gwasanaeth cwsmer megis Ymweliad Dirgel a datblygu astudiaethau achos sy’n cynnwys enghreifftiau o arfer gorau.
Nodau ac amcanion y meysydd Hygyrchedd yw:
Cynghori ein gilydd ar faterion perthnasol a rhannu arfer da ym maes darparu gwasanaethau, adnoddau a gwybodaeth llyfrgell cynhwysol, hygyrch a theg er lles rhanddeiliaid allweddol a staff llyfrgelloedd.
Ymateb i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, deddfwriaeth, polisi ac ymarfer sy’n effeithio ar lyfrgelloedd.
Cefnogi cydweithwyr wrth gynyddu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth allweddol sy’n ymwneud â gwasanaethau llyfrgell a chynnig cefnogaeth a gweithgareddau hyfforddiant.

 

Aelodaeth y grŵp:

  • Cadeirydd: Jenny Jones (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Amber Arrowsmith, Chris Condon (Prifysgol Abertawe)
  • Helen Staffer (Prifysgol Caerdydd)
  • Nia Ellis, (Prifysgol Aberystwyth)
  • Karen Bewen-Chappell  (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)
  • Helen Griffiths (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
  • Jenn Pearce (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Jeanette Harper (Wrexham University)
  • Llyr Hughes, Sarah Owen, Clare Walton  (Prifysgol Bangor)