Mark Hughes, Cadeirydd WHELF a Phennaeth Llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Ar y 29ain o Fehefin 2023, daeth Llyfrgellwyr a gwesteion o Gymru a thu hwnt ynghyd yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd i ddathlu mwy na 30 mlynedd o gydweithio ar draws Addysg Uwch Cymru fel Fforwm Llyfrgelloedd Addysgu Uwch Cymru (WHELF).

Mark Hughes, Cadeirydd WHELF 2023-25

Daeth cydweithrediad WHELF i fodolaeth ym 1993, ac mae’r grŵp yn cynnwys y llyfrgelloedd o bob un o Brifysgolion Cymru, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a llyfrgelloedd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Cenhadaeth WHELF yw ‘Annog cydweithio ac arloesi mewn gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth ledled Cymru’.

Mewn digwyddiad dan nawdd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, daeth y mynychwyr ynghyd i glywed anerchiadau’n nodi cyraeddiadau cydweithrediad WHELF a’r effaith y mae wedi’i gael gan Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth; cyn-Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Andrew Green; a chyn-swyddogion a swyddogion presennol grŵp WHELF, sef Alison Harding, Mark Hughes a Tracey Stanley.

Man giving a speech at a lectern
Andrew Green

Dewisodd y siaradwyr rai uchafbwyntiau allweddol o 30 mlynedd o gyrhaeddiad ac effaith sylweddol ar y cymunedau a wasanaethir gan WHELF, yn cynnwys:

· Caffaeliad cydweithredol WHELF o adnoddau i gefnogi dysgu ac ymchwil, a arweiniodd at agor mynediad i gasgliadau niferus o e-Lyfrau a chasgliadau o gyfnodolion ledled Cymru gyfan.

· Gwaith i gefnogi cymunedau ehangach, trwy’r cynllun ‘Mynediad Cerdded i Mewn’, i alluogi aelodau o’r cyhoedd i gael mynediad at gynnwys ysgolheigaidd ar-lein o lyfrgelloedd WHELF.

· Cadw ac agor casgliadau o bwys i ddiwylliant a hanes Cymru.

· Gweithio i wneud llyfrgelloedd yn fannau mwy cynhwysol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn eu cyfanrwydd, trwy ddigwyddiadau fel y cynadleddau ‘Lleisiau Eithriedig’ hynod lwyddiannus, ac amrywiaeth o weithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eraill.

· Gwaith y ‘System Rheoli Llyfrgell a Rennir’ sydd wedi ennill Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education, sy’n darparu llwyfan llyfrgell cyffredin, o’r radd flaenaf, ar gyfer rheoli gwasanaethau a darganfod adnoddau ar hyd a lled Cymru, sydd wedi ennyn diddordeb consortia eraill ar draws y DU ac yn rhyngwladol fel esiampl.

Yn ogystal â dathlu 30 mlynedd o lyfrgelloedd yn cydweithio er lles ein holl gymunedau a rennir, roedd y digwyddiad hefyd yn edrych ymlaen at lansio strategaeth WHELF sydd i ddod yn 2024, lle mae aelodau WHELF yn awyddus i fynd hyd yn oed ymhellach a chanfod ffyrdd newydd, effeithiol ac arloesol o gefnogi ein sefydliadau a’n defnyddwyr yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Digwyddiad campus, i ddiolch i’n haelodau, ein cymunedau a’n partneriaid am 30 mlynedd nodedig, ac i edrych ymlaen at ddyfodol hyd yn oed mwy cyffrous i lyfrgelloedd WHELF – ac wrth gwrs, yn unol â thraddodiad pob digwyddiad â Llyfrgellwyr, cafwyd cacen fendigedig hefyd. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld yr hyn y bydd WHELF, a’r grym a ddaw pan fydd llyfrgelloedd yn cydweithio at nodau cyffredin, yn ei gyflawni yn ystod y 30 mlynedd nesaf.

plates of Welsh cakes next to a two tier white party cake
Happy 30th anniversary, WHELF!

Diolch i Jon Pountney am y lluniau, Cardiff University Print Room, staff y Senedd a Catering Services a LetThemSeeCake.