Cynnyrch ymrwymiad WHELF i greu a meithrin cymuned groesawgar, barchus, gynhwysol a chydweithredol yw’r cod ymarfer hwn, yn unol â chenhadaeth WHELF i hyrwyddo cydweithio yn y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, annog cyfnewid syniadau, darparu fforwm ar gyfer cyd-gefnogaeth a helpu i hwyluso mentrau newydd yn y ddarpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth.
Credwn mai’r unig ffordd i gyflawni’r genhadaeth hon o gydweithio a chyd-gefnogaeth mewn digwyddiadau a drefnir gan WHELF yw drwy ddilyn cod ymarfer wedi’i seilio ar egwyddorion urddas, cwrteisi a pharch. Disgwylir i’r holl gyfranogwyr mewn digwyddiadau a drefnir gan WHELF ddilyn y cod ymarfer, p’un a ydynt yn gweithio mewn sefydliad a gynrychiolir gan WHELF ai peidio.
Ymddygiad disgwyliedig

Bydd cyfranogwyr yn trin cyfranogwyr eraill a threfnwyr digwyddiadau gydag urddas, cwrteisi a pharch, beth bynnag eu rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint corfforol, hil, oed neu grefydd. Nid ydym yn goddef ymosodiadau personol, bwlio, aflonyddu nac erlid cyfranogwyr digwyddiadau mewn unrhyw ffordd.

Bydd cyfranogwyr yn croesawu ac yn parchu amrywiaeth lleisiau – gan gydnabod nad yw rhai agweddau ar amrywiaeth yn weladwy o bosibl.

Bydd cyfranogwyr yn gwrando’n gwrtais ac yn gwneud lle i bawb gael llais. Gall fod adegau pan na fydd cynrychiolwyr yn cael fforwm yn awtomatig oherwydd yn gyffredinol y person y trefnwyd iddynt gyflwyno fydd yn cael y flaenoriaeth.

Ymddygiad annerbyniol

Ni fydd cyfranogwyr yn camwahaniaethu ar sail hil, rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint corfforol, oed neu grefydd.

Ni fydd cyfranogwyr yn aflonyddu mewn digwyddiadau a drefnir gan WHELF. Mae aflonyddu’n cynnwys sylwadau llafar sarhaus yn ymwneud â hil, rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint corfforol, oed neu grefydd; brawychu, stelcio neu ddilyn bwriadol; ffotograffiaeth neu recordio aflonyddol; tarfu’n barhaus ar sgyrsiau neu ddigwyddiadau eraill; cyffwrdd corfforol amhriodol a sylw rhywiol dieisiau.

Canlyniadau ymddygiad annerbyniol

Ni chaiff ymddygiad annerbyniol ei oddef.

Os gofynnir i unrhyw un roi’r gorau i ymddwyn yn annerbyniol, disgwylir iddynt gydymffurfio ar unwaith.

Os bydd cyfranogwr yn ymddwyn yn annerbyniol, gall trefnwyr y digwyddiad gymryd unrhyw gamau sydd yn eu barn nhw’n briodol, hyd at a chan gynnwys diarddel o’r digwyddiad a chyfyngu ar fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

Beth i’w wneud os byddwch chi’n tystio neu’n dioddef ymddygiad annerbyniol

O ydych chi’n dioddef ymddygiad annerbyniol, yn sylwi bod rhywun arall yn dioddef ymddygiad annerbyniol, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon eraill yn ystod y digwyddiad, rhowch wybod i aelod o’r tîm trefnu cyn gynted â phosibl. Bydd pob adroddiad yn aros yn gwbl gyfrinachol.

Os oes gennych chi gwestiynau neu awgrymiadau am y cod ymarfer hwn, cysylltwch â Gill Morris, Swyddog Datblygu WHELF.