Lleisiau Eithriedig: “Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar nodi’r anghydraddoldebau strwythurol sydd yn aml yn bresennol yn ein casgliadau a’n gwasanaethau, ac ar arddangos mentrau a datblygiadau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r rhain. Y lleisiau amlycaf yn ein casgliadau yn aml yw’r lleisiau breintiedig, ond ceir llawer o straeon a safbwyntiau lluosog eraill, weithiau ynghudd neu wedi’u heithrio o’r golwg.” – Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF 2020

Mae’n bleser gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) gyhoeddi dychweliad hirddisgwyliedig ein cynhadledd ar-lein boblogaidd Lleisiau Eithriedig, a gynhelir yr hydref hwn.:

Diwrnod 1: Dydd Mercher 15 Tachwedd 9:30am-1:00pm

Diwrnod 2: Dydd Iau 16 Tachwedd 9:30am-1:00pm

Nod cynhadledd Lleisiau Eithriedig – a drefnir gan grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF – yw edrych ar ffyrdd y gall croestoriadedd lleisiau ffurfio polisïau, casgliadau, gwasanaethau a diwylliant trefniadol, a sut y gall fod yn llwyfan ar gyfer rhannu arfer da yn y sector Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a Threftadaeth.

Bydd rhaglen eleni’n tynnu sylw at waith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru, ac yna’n ehangu ein cwmpas i edrych ar gyfleoedd dysgu ledled Prydain Fawr, gyda sgyrsiau’n cynrychioli prosiectau o Glasgow i Lundain, Derby i Bury St. Edmonds, Northumbria i RLUK gyfan. Ymhlith rhai o’r pynciau llosg eleni mae AI a Thuedd, Partneriaethau Cymunedol a dadansoddi rhaglenni Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Bydd digwyddiad bore Mercher yn cynnwys prif anerchiad gan Usha Ladwa-Thomas, Mae hi’n Gymrawd Ymweliadol Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymgynghorydd a hyfforddwr llawrydd, ac yn ddeiliad Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Cyflawniad Menywod Lleiafrifol Ethnig Cymru. Mae Usha yn o benseiri a chynghorwyr allweddol Cnllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru a bydd yn siarad am ei gwaith ar yr ‘ymagwedd polisi at gynnwys lleisiau a fu cyn hyn yn eithriedig’.

Bydd digwyddiad bore Iau yn cynnwys prif anerchiad gan Susan Cousins, Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth, Hil-Crefydd a Chred ym Mhrifysgol Caerdydd. Susan yw awdur ‘Overcoming Everyday Racism: Building Resilience and Wellbeing in the Face of Discrimination and Microaggressions’ a ‘Making Sense of Microagressions’ a bydd yn siarad am ei gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd (gan gynnwys datblygu staff ynghylch ei llyfr diweddaraf) a phrosiect ymgysylltu â myfyrwyr ar derminoleg Hil..

Ymunwch â ni wrth i ni drafod heriau a dathlu llwyddiannau’r gwaith parhaus i chwalu rhwystrau, cynyddu hygyrchedd ac ehangu cynhwysiant. Bydd cyfle i rannu eich profiadau eich hun mewn Padlet pwrpasol, y byddwn yn ei rannu gyda chynrychiolwyr cofrestredig cyn y digwyddiad. Bydd myfyrio cymdeithasol a phreifat hefyd yn cael ei hwyluso.Gofynnwn i’r holl gynrychiolwyr ddarllen a chydymffurfio â chodau ymarfer WHELF a JISC cyn dod.
Gellir cofrestru am ddim i ddod i’r digwyddiad, a bydd rhaid gwneud hyn er mwyn derbyn dolen Zoom ar gyfer pob diwrnod. Nodwch fod gan bob bore ei ddolen unigryw ei hun, a fydd yn gweithio ar y diwrnod hwnnw yn unig.

 

Byddwn yn anfon y ddolen Padlet ddydd Mercher 8 Tachwedd i bawb sydd wedi cofrestru i ddod. Caiff y Padlet ei ddefnyddio fel gweithgaredd cyn y digwyddiad yn ogystal â thrwy gydol y sesiwn. Os hoffech gymryd rhan yn y Padlet, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno wrth i ni ddysgu, rhannu a myfyrio gyda’n gilydd.

Diolch,

Pwyllgor Lleisiau Eithriedig Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF/p>

Gyda diolch i JISC am y cymorth technegol,