Bydd Colocwiwm WHELF yn dychwelyd i’w gartref ysbrydol, Gregynog, ar gyfer cynhadledd breswyl ddeuddydd ar 27 a 28 Mehefin.

Thema’r gynhadledd yw “Myfyrio, Ailosod, Adnewyddu”. Bydd ffocws penodol ar yr heriau a’r cyfleoedd rydym ni wedi’u profi, yn ogystal â gwaith sy’n croesi timau, sefydliadau a sectorau.

 

Ffurflen Cadw Lle’r Gynhadledd Colocwiwm

Mae’n bleser gan Bwyllgor Trefnu Colocwiwm WHELF ryddhau’r rhaglen ar gyfer Colocwiwm 2024.

O ystyried yr hinsawdd ariannol ar hyn o bryd, rydyn ni wedi cadw cost cadw lle yn isel fel bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu mynychu, gyda’r pris ar gyfer mynychwyr llawn yn £99.

Cynrychiolydd Dydd 1 – £60

Cynrychiolydd Dydd 2 – £60

Cynrychiolydd y gynhadledd lawn – £99

 

Cyfleoedd Bwrsariaethau

Mae’n bleser gan Bwyllgor Trefnu Colocwiwm WHELF gyhoeddi, o ganlyniad i gyllid hael gan Gronfa Kathleen Cooks Cymru CILIP, rydyn ni’n cynnig nifer o fwrsariaethau i rai sy’n dymuno mynychu Colocwiwm WHELF yn Neuadd Gregynog eleni. Dyma gyfle gwych i gysylltu â chydweithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth, a hynny yn amgylchedd hardd Neuadd Gregynog.

Pwy ddylai ymgeisio?

· Gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa a’r rhai sydd heb fynychu Colocwiwm WHELF o’r blaen, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein;

· Staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y proffesiwn llyfrgelloedd a gwybodaeth (fel y mwyafrif byd-eang);

· Gweithwyr proffesiynol y genhedlaeth nesaf sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ar hyn o bryd am gymhwyster llyfrgelloedd neu wybodaeth.

Beth mae’r fwrsariaeth yn ei gynnwys?

· Mynychu’r gynhadledd yn llawn

· Costau teithio, hyd at £100

Sut i ymgeisio?

· Llenwch y Ffurflen Gais am Fwrsariaeth mewn 200 gair neu lai, gan roi gwybod pam hoffech chi fynychu.