Catherine Finch, Cadeirydd Grŵp EDI WHELF sy’n crynhoi cynhadledd Lleisiau Eithriedig 2023

.

Cynhaliodd grŵp EDI WHELF gynhadledd Lleisiau Eithriedig 2023 ar-lein dros ddau ddiwrnod. Gydag agenda’n canolbwyntio ar Gymru, trafododd y siaradwyr a’r cyflwynwyr lawer o themâu allweddol yn ymwneud â gwella amrywiaeth, ymgysylltu cymunedol a chyfranogiad mewn addysg.

Ar y diwrnod cyntaf cafwyd thema gref o ymgysylltu cymunedol a phartneriaeth yng Nghymru. Trafododd Usha Ladwa-Thomas gydweithio gyda’r gymuned yng Nghymru i ddatblygu polisi gwrth-hiliaeth effeithiol. Dangosodd y gwaith rhyfeddol a wnaed gan wirfoddolwyr yn y Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe sut y gall amgueddfeydd ennyn ymdeimlad dyheadol o ddiben a dysgu gydol oes. Bu Wendy Goodridge yn arddangos eu talentau a’u llwyddiannau gyda gwir falchder.

Cyflwynodd Nancy Roberts gipolwg rhagorol ac amserol ar ddeallusrwydd artiffisial a thuedd. Fel un sy’n cyfaddef ei bod yn ‘nerd’ data dadansoddol ac yn swyddog mewn sawl sefydliad data, roedd Nancy’n gallu esbonio’r cysylltiad rhwng data a deallusrwydd artiffisial a sut y gall tuedd ac ansawdd data effeithio arno.

Ar ail ddiwrnod y gynhadledd roedd ffocws cryf ar rannu profiadau a dealltwriaeth a bu’r siaradwyr – ymchwilwyr, llyfrgellwyr neu weithwyr cymunedol ledled y DU – yn arddangos arferion arloesol ac ymgysylltiad myfyrwyr gydag amrywiol brosiectau sy’n bodoli eisoes.

Roedd rhan gyntaf y bore’n edrych ar brosiectau cydweithredol gyda myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, a faint o waith sydd angen ei wneud o hyd cyn y gellir ystyried bod llyfrgelloedd yn wirioneddol amrywiol ac yn adlewyrchu cefndiroedd eu myfyrwyr. Diolch i Amanda Foster, Lorna Hibbert a Dr Biddy Casselden o Brifysgol Northumbria a Dr Christina Kamposiori o Research Libraries UK.

Cafwyd prif gyflwyniad i beri i ni feddwl ar Ddiwrnod 2 “Working in Partnership Across the University: Improving Race Equity” gan Susan Cousins, Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth, Hil – Crefydd a Chred, Prifysgol Caerdydd. Susan yw awdur Overcoming Everyday Racism a Making Sense of Microaggressions ac mae hi hefyd wedi cyflwyno digwyddiadau hyfforddi i gydweithwyr WHEL

Yna bu llyfrgellwyr ledled y DU yn rhannu eu prosiectau cyffrous ac arloesol: estyn allan at fyfyrwyr gyda chlybiau darllen i hybu sgiliau astudio ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian (Silvia Spaltro a Frances MacInnes) ac ymgyrch gwrth-hiliaeth effeithiol yng Nghymru yn llyfrgelloedd AB Castell Nedd Port Talbot (Sobia Shafique-Akhtar) ynghyd â nifer o fentrau eraill â’r nod o ddarparu cymorth a chefnogaeth i staff a myfyrwyr sy’n dymuno amrywio eu haddysgu a’u dysgu (Charlie Worthington a L C Chung, Coleg King’s Llundain a Catherine Small, Conservatoire Brenhinol yr Alban).

Diolch o galon i’r holl siaradwyr ac i bawb a fu’n bresennol am gyfrannu a sicrhau bod Lleisiau Eithriedig 23 yn brofiad mor ystyrlon. Yn aml, mae llyfrgelloedd wrth galon prifysgolion a chymunedau a gyda’r cyntaf i fabwysiadu technoleg newydd. Gyda gwybodaeth EDI, gobeithio bod y Gynhadledd wedi cynnig cipolwg gwerthfawr ar rai o’r datblygiadau pwysig sydd ar waith heddiw.

Os daethoch chi i’r Gynhadledd, gallwch weld y cyflwyniadau a’r dolenni o’n Padlet ni.

Felly wrth i 2023 dynnu tua’i therfyn, hoffai tîm Lleisiau Eithriedig ac EDI WHELF ddymuno egwyl hamddenol i chi dros y Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda!