Cynlluniau Mynediad a Benthyca

Myfyrwyr a staff sefydliadau addysg uwch

Gall myfyrwyr a staff sefydliadau addysg uwch gael mynediad i’r rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd drwy SCONUL Access. Mae SCONUL Access yn caniatáu i lawer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion gael mynediad i lyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun. I gael rhagor o fanylion a sut i wneud cais, cliciwch yma.

Cynlluniau mynediad eraill

Mae sefydliadau WHELF hefyd yn perthyn i nifer o gynlluniau ar draws sectorau a chymunedau er mwyn caniatáu i’r cyhoedd a’r gymuned leol gael mynediad i’w llyfrgelloedd. Mae tabl sy’n crynhoi’r cynlluniau mynediad y mae sefydliadau WHELF yn perthyn iddynt ar gael i’w lawrlwytho yma. Neu, cliciwch ar enw’r sefydliad yn y rhestr isod i gael manylion pellach:

Prifysgol Aberystwyth
Amgueddfa Cymru – National Museum of Wales
Prifysgol Bangor
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Open University Library in Wales
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Prifysgol Swansea
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Sylwer bod mynediad i bob sefydliad sy’n aelod o WHELF drwy ganiatâd y sefydliad hwnnw a gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Mae’n rhaid i bob benthyciwr sydd am gael mynediad i brifysgolion Cymru ufuddhau i bolisïau, rheolau a rheoliadau’r sefydliad dan sylw.

Cael mynediad i adnoddau electronig

Mynediad Cerdded i Mewn Cymru oedd enw prosiect llwyddiannus gan WHELF i alluogi aelodau’r cyhoedd i gael mynediad i adnoddau electronig mewn llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Amcan y prosiect oedd rhoi system ymarferol ar waith mewn safleoedd peilot ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a datblygu pecyn cymorth i helpu sefydliadau eraill Cymru i greu system mynediad cerdded i mewn yn y dyfodol. Roedd partneriaid y prosiect yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd y pecyn cymorth yn Saesneg ac yn Gymraeg ym mis Mawrth 2013; mae copïau ar gael i’w lawrlwytho o’r blog:

Mae’r llyfrgelloedd WHELF canlynol yn aelodau cynllun Mynediad Cerdded i Mewn Cymru. Cliciwch ar ddolen isod i gael mwy o wybodaeth

Prifysgol Aberystywyth
Prifysgol Cardiff
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Swansea
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant