Select Page

Adroddiad Colocwiwm WHELF 2025

Thema: Canfod Llonyddwch yn yr Anhrefn

Brynhawn Mercher, 11 Mehefin 2025, daeth gweithwyr llyfrgell a gwybodaeth proffesiynol o bob rhan o Gymru a thu hwnt at ei gilydd yn rhithiol ar gyfer Colocwiwm WHELF 2025. Roedd y thema, “Canfod Llonyddwch yn yr Anhrefn,” yn atseinio’n gryf yn yr hinsawdd bresennol o newid cyflym ac ansicrwydd.

Roedd yn arbennig o braf cael croesawu pobl o amrywiaeth o sectorau, gan amlygu pwysigrwydd cydweithio traws-sector a rhannu dysgu mewn cyfnod heriol.

Prif Siaradwyr:

Tracey Stanley Cadeirydd WHELF

Judith Dray Is-gadeirydd WHELF

Roedd eu cyfraniadau’n gosod naws i’r digwyddiad oedd yn fyfyriol ac yn edrych ymlaen, wrth drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth heddiw.

Crynodebau o’r Sesiynau:

Mae crynodeb lawn o’r sgyrsiau a’r sesiynau ar gael yma.

Hoffai WHELF hefyd ddiolch Orla McNally, cynrychiolydd noddwyr y digwyddiad EBSCO,am ei sgwrs, a Stuart Lawton o Jisc Cymru am ei gymorth technegol amhrisiadwy.

Wrth i ni barhau i lywio drwy heriau cymhleth, mae digwyddiadau fel Colocwiwm WHELF yn ein hatgoffa am y cryfder a geir mewn cymuned. Diolch i bawb a ymunodd â nis.