Mae’n bleser gan WHELF groesawu dau aelod newydd, ar sail ex-officio i ddechrau.
Cynrychiolir Llywodraeth Cymru gan Helen Blockwel, Pennaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Cyn hyn bu Helen yn gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ddeunaw mlynedd ac mae’n gyfarwydd â WHELF a llyfrgelloedd AU.
Cynrychiolir llyfrgelloedd AB yng Nghymru gan Jo Mather, Pennaeth y Gwasanaethau Llyfrgell yng Ngrŵp Colegau NPTC, yn gweithio yng Ngholeg Castell Nedd.
Dywed Jo: “Mae gennym ni gysylltiadau da gyda llyfrgelloedd partner AU eisoes ym Mhrifysgol De Cymru, PCDDS a Wrecsam drwy AU ac AB: Cydweithio ar waith yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â chi, clywed am y gwaith rydych chi i gyd yn ei wneud ac edrych am ffyrdd y gall AB gydweithio ymhellach gydag AU.”
Bydd Helen a Jo yn dod i’w cyfarfod cyntaf o Fwrdd WHELF ar 4 Gorffennaf 2025.