Trysorau WHELF

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Llyfrgelloedd WHELF yn cynnwys llawer o drysorau cyfoethog ac amrywiol. Dyma rai enghreifftiau yn unig o’r casgliadau gwerthfawr hyn:

Casgliadau Arbennig Prifysgol Metropolitan Caerdydd

English Pottery gan Bernard Rackham a Herbert Read

Mae’r llun yn dangos proflen cyhoeddwr o lyfr English Pottery gan Bernard Rackham a Herbert Read, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1924. Mae’r broflen cyhoeddwr hon wedi cael ei marcio â phensil lliw ac mae’n ymddangos fod y marciau hyn yn dangos pa rannau o’r llyfr a ysgrifennwyd gan ba awdur. Mae’r llyfr yn rhan o Gasgliad Rackham, casgliad o fwy na 70 o lyfrau a ysgrifennwyd neu a olygwyd gan Bernard Rackham (Ceidwad yr Adran Cerameg yn Amgueddfa Victoria ac Albert, 1914-38), ynghyd â llyfrau o’i gasgliad personol ac effemera cysylltiol megis llythyrau a llyfrau nodiadau, a roddwyd i Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd gan deulu’r Rackham dros gyfnod o chwe blynedd rhwng 2002 a 2008.

Side by Side gan Gilbert a George

Side by Side yw’r llyfr artistiaid cyntaf gan y ddeuawd gysyniadol o Brydain, “y cerflunwyr” Gilbert & George. Dywedant yn eu cyflwyniad i’r llyfr: “These chapters together represent a contemporary sculpture novel. It is based on plans, intentions and experience. The form being abstract air brushes and the expression pure sculpture…” Mae copi’r llyfrgell, a gedwir yn y Casgliad Llyfrau Artistiaid sy’n tyfu, yn rhif 398 mewn argraffiad cyfyngedig o 600 copi wedi’u llofnodi a’u rhifo.

Casgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth

Shakespeare gan William Warburton

Mae’r adran Casgliadau Arbennig yn cynnwys copi o argraffiad William Warburton o Shakespeare a gyhoeddwyd yn 1747, mewn wyth cyfrol. Fe’i defnyddiwyd gan Samuel Johnson wrth iddo baratoi ei Dictionary (1755) a’i argraffiad ei hun o Shakespeare (1765). Defnyddiodd Johnson ysgrifenwyr a gopïodd ddeunyddiau o’r rhifynnau a cheir hefyd rai nodiadau yn ei lawysgrifen ei hun. Daw cyfrol chwech o set arall, yn eiddo i Edward Walpole ac wedi’i hanodi gan Styan Thirlby, a fenthycwyd i Johnson pan roedd yn gweithio ar ei argraffiad ei hun o weithiau Shakespeare. Yn ddiweddarach aeth y cyfrolau trwy gasgliadau llyfrgelloedd George Steevens a Richard Heber cyn cael eu prynu gan George Powell o Nanteos yn 1862. Ymhen amser cymynroddwyd ei gasgliad i’r Brifysgol.

Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Beibl Llanbedr Pont Steffan

Mae Beibl Llanbedr Pont Steffan yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn llawysgrif ryfeddol am sawl rheswm. Fe’i llofnodwyd gan yr ysgrifennydd, a roddodd nid yn unig ei enw ei hun, ‘G. of Fécamp’, ond hefyd y dyddiad, 1279, ac enw ei noddwr, Abad Jacobus (James) o Abaty Benedictaidd Saint-Pierre-sur-Dives (Esgobaeth Sées) yn Normandi.

Y Konrad Gesner, Historia Animalium (Zurich 1575)

Gellid dadlau mai Conrad Gesner (1516-1565) oedd naturiaethwr mwyaf ei gyfnod. Rhwng 1551 ac 1558, cyhoeddodd Gesner gampwaith pedair cyfrol, yr History of Animals. Gwnaed ei waith yn bosib i raddau helaeth gan y rhwydwaith o ohebiaeth a sefydlodd gyda naturiaethwyr blaenllaw ledled Ewrop a oedd, ar ben eu syniadau, yn danfon planhigion, anifeiliaid a gemau ato. Mewn cyfnod o densiwn crefyddol eithafol roedd gan Gesner gyfeillion ar naill ochr y rhwyg rhwng Catholigion a Phrotestaniaid. Roedd defnydd helaeth Gesner o ddarlunio yn anghyffredin ar gyfer y cyfnod. Cynhyrchwyd y torluniau pren hardd gan yr artist Lucas Schan o Strasbourg.

Jan van der Straat, Venationes ferarum, auium, piscium pugnae bestiariorum & mutuae bestiarum. (Antwerp, 1630)

Gweithiodd yr artist Dadeni o Fflandrys Jan van der Straat am y rhan fwyaf o’i fywyd yn Yr Eidal yn ddylunydd cartwnau ar gyfer tapestrïau. Rhwng 1553 a 1571 fe’i cyflogwyd gan Cosimo de’Medici i ddylunio cyfres o ddarluniau moethus o hela, saethu adar a physgota ar gyfer addurno ugain ystafell ym Mhalas Peggio-a-Cajano. Mae’r Venationes yn coffáu’r dyluniadau hyn (ac eraill) mewn modd ysblennydd, gan ddarlunio dulliau hela traddodiadol y dadeni gyda gwrthrychau ffansïol o dras Ddwyreiniol. Hyfforddwyd ysgythrwyr y gwaith hwn gan Peter Paul Rubens.

Archifau & Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Llyfr Esgobol Bangor

Roedd Llyfr Esgobol Bangor yn fenter yr ymgymerwyd â hi ar achlysur Dathliadau 125 Mlwyddiant Prifysgol Bangor yn 2009 ac roedd yn fenter ar y cyd rhwng y Brifysgol ac Eglwys Gadeiriol Bangor. Golygodd y prosiect y gellid gwneud un o drysorau cudd a gwerthfawr Bangor y Canoloesoedd – Llyfr Esgobol Bangor – ar gael i bawb trwy gyfrwng gwefan cydraniad uchel newydd sbon a pharhaol. Mae Llyfr Esgobol Bangor yn llawysgrif eithriadol, a hi yw’r unig lawysgrif litwrgaidd gyfan y gwyddys iddi fod wedi goroesi o esgobaeth ganoloesol Bangor, ac mae’n un o ddau lyfr yn unig o Gymru y canoloesoedd sy’n dal ar gael sy’n cynnwys llawer o nodiant plaengan. Mae’r Llyfr Esgobol yn eiddo Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor a deuir ag ef o hyd i’r Eglwys Gadeiriol ar achlysuron arbennig, ond fe’i cedwir er mwyn ei ddiogelwch yn Archif Prifysgol Bangor erbyn hyn.

Extent of Anglesey and Caernarvon

Lluniwyd dwy adran gyntaf y llawysgrif hon, yr Extent of Anglesey and Caernarvon gan John de Delves, dirprwy ustus Gogledd Cymru, yn 1352. Ystyrir y llawysgrif yn un o’r ffynonellau pwysicaf ar gyfer hanes economaidd a chymdeithasol Gwynedd yn y canoloesoedd. Mae’n cynnwys disgrifiad manwl o’r rhenti a’r gwasanaethau oedd yn ddyladwy i’r arglwydd gan ei denantiaid.

Llawysgrifau Hedd Wyn

Casgliad o gerddi, 1906-17, a gyfansoddwyd gan Hedd Wyn i’w cyflwyno mewn cystadlaethau Eisteddfodol. Cynhwysant yn arbennig fersiynau cynnar o’r gerdd fuddugol yn Eisteddfod Penbedw, Yr Arwr, a enillodd iddo’r Gadair yn Eisteddfod Penbedw wedi iddo gael ei ladd ar faes y gad yn Fflandrys yn y Rhyfel Mawr, a’r llythyr a ddarganfuwyd yn ddiweddar “Rhiwle yn Ffrainc” a ysgrifennwyd yn 1917. Mae’r llythyr hwn yn cynnig darlun bardd o fywyd ‘tu cefn i’r llinell’ ac eto’n arwrol nid yw’n datgelu gwir erchyllterau’r ffosydd, gan hoelio sylw yn hytrach ar yr ychydig eiliadau o harddwch y daw’r bardd o hyd iddynt i fyfyrio a’u rhannu gyda’r darllenydd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfr Du Caerfyrddin

Cred ysgolheigion cyfoes erbyn hyn fod Llyfr Du Caerfyrddin, a elwir felly oherwydd lliw ei rwymiad a’i gysylltiad â Phriordy Sant Ioan yr Efengylwr a Theulyddog, Caerfyrddin, yn waith un ysgrifennydd yn ysgrifennu ar adegau gwahanol o’i fywyd cyn ac o gwmpas y flwyddyn 1250. Golyga hynny ei fod yn un o’r llawysgrifau cynharaf a oroesodd a ysgrifennwyd yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Fe’i dynodwyd yn un o ‘Four Ancient Books of Wales’ gan William Forbes Skene (1809-92), er iddo gredu y cafodd ei hysgrifennu yn llawer cynharach yn y ddeuddegfed ganrif.

Chaucer Hengwrt

Mae’n sicr bod ‘Chaucer Hengwrt ‘ yn un o drysorau mawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn un o’r enwocaf y tu allan i Gymru. Mae’n un o’r testunau pwysicaf o waith Geoffrey Chaucer i oroesi, a daeth ei bwysigrwydd yn amlycach fyth yn ddiweddar pan ddarganfuwyd mai ei ysgrifennydd oedd Adam Pinkhurst, un o gydweithwyr Chaucer yn Llundain. Efallai yr ysgrifennwyd y llawysgrif ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda

Mae Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn llawysgrif Gymreig fechan yn dyddio o ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae’n cynnwys fersiwn Dyfed o gyfraith frodorol Cymreig. Gan mai hon yw’r llawysgrif ganoloesol gyntaf yn yr iaith Gymraeg i ymddangos mewn ocsiwn cyhoeddus er 1923, mae’n un o’r pwysicaf o’r eitemau a dderbyniwyd yn ddiweddar i gasgliadau llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd (SCOLAR)

Dante, map o’r casgliad Atlasau

Yn 1302 alltudiwyd y bardd Eidalaidd Dante Alighieri, awdur y Comedi Dwyfol, yn barhaol o’i Fflorens hoff, ei ddinas frodorol. Ag yntau wedi cael ei orfodi i dreulio gweddill ei fywyd yn alltud gwleidyddol, teithiodd Dante ledled yr Eidal yn crwydro o ddinas i ddinas. Byddai unrhyw ysgolhaig sy’n awyddus i ddilyn ôl troed Dante yn elwa o astudio’r mapiau hardd hyn a liwiwyd â llaw, a gynhyrchwyd yn 1892 gan yr artist o Loegr Mary Hensman. Cynhyrchwyd y mapiau yn Llundain gan Urdd Gwaith Llaw Charles Robert Ashbee yn ffotolithograffau lliw.

Sangorski & Sutcliffe

Mae’r Casgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd yn cynnwys nifer fawr o rwymiadau eithriadol gan rai o brif grefftwyr diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, gan gynnwys sawl enghraifft nodedig o’r cwmni enwog o Lundain Sangorski & Sutcliffe, cwmni celf llyfrau mwyaf blaenllaw y cyfnod. Fe’i ffurfiwyd gan Francis Sangorski a George Sutcliffe yn 1901, ac roedd y rhwymdy hwn yn fwyaf enwog am gynhyrchu rhwymiadau cywrain gyda brith addurniadau aur a cherrig gwerthfawr cramennog.

Elegy Written in a Country Churchyard gan Thomas Gray

Yn ogystal â’u casgliad pwysig o lyfrau o weisg preifat a rhwymiadau cain, mae gan Brifysgol Caerdydd hefyd nifer o lawysgrifau goliwiedig cyfoes. Cafodd y copi hardd hwn o Elegy Written in a Country Churchyard gan Thomas Gray ei ysgrifennu a’i oliwio â llaw gan Sidney Farnsworth yn 1910. Roedd Farnsworth yn baentiwr, cerflunydd a goliwiwr, yn ogystal ag yn awdur “arweiniad sut i” ar gyfer pobl oedd eisiau dysgu’r grefft, Illumination and its Development in the Present Day.

Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe

Darparwyd y ffotograff gan The Co-operative Group

Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol a chadwrfa archifau Prifysgol Abertawe ac mae’n cynnwys deunyddiau o bwys lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gan y casgliadau gryfderau ym Maes Glo De Cymru (yn enwedig felly gofnodion glowyr a’r mudiadau yr oeddent yn rhan ohonynt megis undebau llafur), cofnodion diwydiannol a busnes, ysgrifennu o Gymru yn Saesneg, a’r Brifysgol. Mae’n gartref archifau yr actor Richard Burton.
Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn adnodd ymchwil o bwys rhyngwladol. Mae’r Casgliad yn cynnig darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr eu hunain a’r mudiadau a grëwyd ganddynt. Mae’n cynnwys cofnodion undebau llafur, yn bennaf felly Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), institiwtiau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion yn gysylltiedig â’r gymuned lofaol. Yn ystod yr 1920au cafwyd aflonyddwch diwydiannol yn Ne Cymru, a chafodd y cymunedau glofaol eu bwrw’n arbennig o galed gan streiciau 1921 ac 1926. Mae’r ffotograff hwn yn dangos y berthynas gefnogol rhwng cymdeithasau cydweithredol, wrth i roddion gael eu danfon gan aelodau’r London Co-operative Society i’w cyd gydweithredwyr yn Nowlais.

Ffocws y casgliadau llenyddol yn Archifau Richard Burton yw Ysgrifenwyr o Gymru yn Saesneg. Mae’r rhain yn cynnwys papurau’r beirniad diwylliannol ac awdur nodedig Raymond Williams (1921–1988). Mae’r casgliad yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau nofelau, gweithiau dramatig, barddoniaeth ac ysgrifennu academaidd; gohebiaeth; adolygiadau a gyhoeddwyd, darlithiau ac erthyglau. Mae’r llyfrau nodiadau yn arbennig o bwysig gan fod Raymond Williams wedi cofnodi syniadau cychwynnol i’w datblygu’n ddiweddarach. Roedd ei gyhoeddiadau, megis Culture and Society (1958), The Long Revolution (1961), a’i weithiau beirniadol eraill, ‘yn herio ffiniau meddwl confensiynol a’u dosbarthiadu academaidd’, (Dai Smith, ‘Williams, Raymond Henry (1921–1988)’, rev. Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; argraffiad ar-lein, Hyd 2009 [http://www.oxforddnb.com/view/article/39847, darllenwyd 24 Awst 2015]) a gwelodd Raymond Williams undod rhwng ei waith ffeithlen a ffuglen, megis ‘Border Country’ (1960).

Patentau

Mae’r Casgliadau Archifau Lleol yn amrywiol iawn ac maent yn cynnwys cofnodion nifer o fusnesau lleol. Ceir cynrychiolaeth dda iawn o blith diwydiannau metelegol yr ardal, ac yn enwedig felly gopr, tunplat a dur. Rhoddwyd y patentau hyn i Syr Henry Hussey Vivian, gwleidydd a diwydiannwr (1821-1894), am ei arloesiadau wrth gynhyrchu copr yn y Deyrnas Unedig, ac maent hefyd yn cynnwys patentau a roddwyd yn Awstria, Hwngari, Ffrainc, Yr Almaen, a Chanada.

Awgrymwyd mai ef oedd yn bennaf gyfrifol am ehangu ac arallgyfeirio Vivian & Sons, a bod ei ddylanwad yn allweddol i wneud Abertawe yng ‘ganolfan fetelegol y byd’.