Yn ddiweddar cynhaliodd Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF (EDI) ddau ddigwyddiad o dan y teitl Lleisiau Eithriedig.

Meddai Tracey Stanley (Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Grŵp EDI WHELF):

Fel cadeirydd Pwyllgor EDI WHELF, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am eich cyfraniadau i Lleisiau Eithriedig WHELF ar 22 Ebrill a 24 Mai ac am gymryd rhan ynddynt.

Roedd y gynhadledd yn llwyddiant mawr a chafwyd llawer o ymgysylltu cadarnhaol yn ystod y dydd ac ar Twitter. Rwyf yn teimlo ein bod wedi gallu meithrin ymdeimlad gwirioneddol o gysylltu a chymuned, ac agor gofod ar gyfer trafod, a fydd gobeithio yn arwain at gydweithio yn y dyfodol. Daeth cymaint o syniadau gwych allan o’r diwrnod, ac rwyf yn hyderus y gallwn weithio ar draws ein sectorau i symud syniadau yn eu blaenau. Roedd yn dda iawn hefyd gweld mynychwyr yn manteisio ar syniadau ymarferol ac yn siarad am sut roeddent yn awyddus i gyflwyno newidiadau yn eu sefydliadau eu hunain.

Recordiadau 22 Ebrill 2021 (diwrnod 1)

Cyfrinair: V96^Q3CM

Recordiadau 24 Mai 2021 (diwrnod 2)

Cyfrinair: V5Fa5?y%

Mae’r syniadau a rannwyd mewn sesiynau rhannu trwy jamfwrdd yma

Mae Grŵp EDI WHELF yn falch iawn o weld y diddordeb a gynhyrchwyd ac maen nhw’n gobeithio cynnal rhagor o sesiynau yn y dyfodol. Unwaith eto, diolchiadau diffuant i’r tîm yn Jisc Cymru am y cymorth technegol.