Y Gwir Anrh Vaughan Gething AS
Prif Weinidog Cymru
Llywodraeth Cymru
22 April 2024
Annwyl Brif Weinidog,
Ysgrifennaf ar ran y grŵp o Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ym mhob sefydliad addysg uwch yng Nghymru yng ngrŵp WHELFi fynegi pryder difrifol ynghylch y toriadau cyllid arfaethedig yng nghyllideb ddrafft 24/25 ar gyfer sefydliadau diwylliannol allweddol yng Nghymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol.
Er ein bod yn deall ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni, credwn fod mynediad at gelfyddyd, treftadaeth a diwylliant hefyd yn hanfodol – a bydd y gostyngiadau hyn, sy’n amrywio o 10% i 22.3%, yn cael effaith ddifäol ar allu Cymru i ddiogelu, cadw a hyrwyddo ein hanes a’n treftadaeth gyfoethog.
O ystyried chwyddiant a thoriadau’r flwyddyn flaenorol, mae’r gostyngiadau’n golygu dirywiad mwy o lawer mewn termau real i gyllid y sector dros amser, a allai arwain at golli swyddi, crebachu mynediad y cyhoedd at gasgliadau, cyfyngu ar wasanaethau diwylliannol ac addysgol, a gostyngiad llym yn y nifer o weithgareddau sy’n cefnogi pobl Cymru.
At hyn, mae’r penderfyniad yn gwrth-ddweud y buddion economaidd hirdymor a ddaw o gefnogi sefydliadau diwylliannol. Mae astudiaethau wedi dangos bod pob punt a fuddsoddir yn y sector yn cynhyrchu pum punt o dwf economaidd.

Anogwn chi i fyfyrio ar y rôl sydd gan y sefydliadau hyn wrth gefnogi ein cenhedlaeth ni a’r rhai fydd yn ein dilyn ynghyd ag enw da ein cenedl, gan fod y rhain yn sefydliadau o fri byd-eang, ac yng ngoleuni hynny, anogwn chi hefyd i ailystyried y cyllidebau a ddyrennir i sefydliadau diwylliannol.
Ar ran yr aelodau Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF):
Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Wrecsam
Yn gywir
Mark Hughes, Cadeirydd WHELF a Phennaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd