Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF

Mae WHELF yn trefnu cynhadledd undydd rad ac am ddim ar Leisiau Eithriedig a’n Casgliadau a gynhelir ar-lein, ar yr 22ain Ebrill 2021. Hoffem wahodd cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau sector treftadaeth ar draws gwledydd Prydain i gyflwyno crynodebau ar gyfer y gynhadledd.

Rydym yn chwilio am grynodebau ar gyfer y prif gyflwyniadau (20 munud), sgyrsiau carlam (10 munud) a chyflwyniadau poster (i’w traddodi yn ystod egwylion lluniaeth trwy drefn cylchdro). Gellir cyflwyno crynodebau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gydnabod yr anghysonderau strwythurol sy’n aml i’w gweld yn ein casgliadau a’n gwasanaethau, ac ar arddangos mentrau a datblygiadau fydd yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Y lleisiau uchaf yn ein casgliadau yn aml yw lleisiau braint, ond mae llawer mwy o storïau a safbwyntiau gwahanol, weithiau’n ddirgel neu’n cael eu cuddio rhag inni eu gweld. Bydd pynciau perthnasol ar gyfer cyflwyniadau’n cynnwys datblygu polisïau casglu cynhwysol, ehangu ac amrywio rhestrau darllen a chwricwla, arddangos casgliadau ac arferion amrywiol ac asesiadau beirniadol o duedd a rhagfarn yn ein strwythurau a pholisïau.

Er mwyn cyflwyno eich crynodeb llanwch y templed atodedig a’i ddanfon yn ôl at Gill Morris, Swyddog Datblygu WHELF, erbyn y 1af Mawrth 2021

Fe gewch neges erbyn 19eg Mawrth 2021 i gadarnhau y derbyniwyd eich crynodeb.

Bwriadwn recordio’r holl gyflwyniadau er mwyn eu cynnwys ar ein tudalen Rhyngrwyd er budd cydweithwyr ar draws y sector.

Diolch i JISC am eu cefnogaeth technegol