Eleni, bydd Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) WHELF yn rhedeg sesiwn Cwrdd ac addysgu (Teachmeet) ddydd Mercher 26 Ebrill 2023 12:30-14:30 ar Zoom.
Bydd ein sesiwn Cwrdd ac addysgu (Teachmeet) agos atoch a gweithredol yn rhoi llwyfan i rai o’r arferion da sy’n digwydd yng Nghymru ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Canolbwynt y digwyddiad fydd carwsél o sgyrsiau o dan arweiniad mewn grwpiau bach ar y themâu canlynol:
1. Adnabod a gweithredu llwyddiannau bach o fewn problemau mwy
Lindsay Roberts,Prifysgol Caerdydd – Building a ‘critical appraisal for anti-racism’ tutorial
Creu gofodau, polisïau a diwylliant cynhwysol ar gyfer staff a defnyddwyr Llyfrgelloedd
Catherine Finch, Prifysgol De Cymru – Inclusive influencer: library spaces/projects and their drivers
3. Amrywiaethu casgliadau llyfrgelloedd
Lori Havard, Prifysgol Abertawe – Diversifying Collections Project
Bydd cyfle i rannu eich arferion da eich hunain, gofyn cwestiynau a chynllunio i’r dyfodol a byddwn yn trafod heriau ac yn dathlu llwyddiannau yn ein grwpiau bach yn ogystal â’r criw llawn a fydd yn y sesiwn Cwrdd ac addysgu (Teachmeet).
Llenwch ein ffurflen gofrestru ar-lein er mwyn cael eich ychwanegu at ein rhestr bostio digwyddiadau:
Byddwn ni’n anfon dolen Padlet at bawb ar ein rhestr bostio ymlaen llaw. Defnyddir hyn fel gweithgaredd cyn y digwyddiad, yn ogystal â drwy gydol y sesiwn. Ein nod yw creu digwyddiad i ysgogi’r meddwl wedi’i yrru gan y cyfranogwyr, a hwnnw’n rhannol yn Wersyll Llyfrgell ac yn Rowndiau Gwib yn rhannol. Bydd rhywun â phrofiad yn y pwnc o dan sylw yn rhoi cyflwyniad byr i agor pob trafodaeth grŵp fach. Byddwn yn dosbarthu manylion y cyflwyniadau hyn yn nes at y digwyddiad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno ac at rannu’r profiad gyda’n gilydd.
Diolch yn fawr.
Pwyllgor Lleisiau a Eithriwyd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF