Dyma gyd ymateb CILIP Cymru, WHELF, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgelloedd GIG a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Strategaeth Ddigidol (ddrafft)  Llywodraeth Cymru. Gallwch lawr lwytho’r adroddiad llawn o’r ddolen, mae’r prif argymhellion isod.  Prif Argymhellion  Argymhelliad 1: Dysgu o bolisïau blaenorol  Credwn fod y Strategaeth Ddigidol i Gymru yn adeiladu ar waddol o  bolisïau ar gyfer Cymru a gweddill gwledydd Prydain trwy ddyheadau  digidol bras. Byddem yn argymell y dylai’r gwaith o ddatblygu’r polisi  fanteisio ar a chyfeirio at bolisïau blaenorol,a cheisio canfod ynddynt  unrhyw ffactorau allai rwystro ei gweithredu.  Argymhelliad 2: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth  I fod yn effeithiol, rhaid i Strategaeth Ddigidol i Gymru gynnwys llinellau  cyfrifoldeb clir, deilliannau mesuradwy ac ymrwymiad cyllidebol pwrpasol.Rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth gynnwys Cynllun Gweithredu sy’n manylu ar yr elfennau hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau, targedau a dyraniadau gwario presennol. Argymhelliad 3: Cadwraeth a pharhad digidol  Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae mecanweithiau effeithiol ar gyfer  cynnal a chadw’r cofnod digidol yn allweddol i barhad ac atebolrwydd am ddatblygiad digidol. Argymhellwn y dylai’r strategaeth genedlaethol fras  hon roi ystyriaeth i’r seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i werthuso, storio diogelua darparu mynediad at asedau digidol yn yr hirdymor.  Argymhelliad 4: Llythrennedd data a gwybodaeth  Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd  llythrennedd data a gwybodaeth fel cymwyseddau craidd ar gyfer  cenedlaethau’r dyfodol, ac y dylid eu gwreiddio mewn cwricwla  mewn ysgolion,  Addysg Bellach ac Addysg Uwch.  Argymhelliad 5: Strategaeth Sgiliau Digidol   Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod yn briodol iawn yr angen i fuddsoddi mewn uwch sgiliau digidol, gwybodaeth a data er mwyn creu gweithlu …

Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru Read more »

WHELF: Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Llythyr Agored at y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru : Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori mewn deddfwriaeth egwyddorion sylfaenol dinasyddiaeth gynhwysol, llesiant a ffyniant cenedlaethol yn Neddf Llesiant …

Llythyr Agored at y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Read more »

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF Mae WHELF yn trefnu cynhadledd undydd rad ac am ddim ar Leisiau Eithriedig a’n Casgliadau a gynhelir ar-lein, ar yr 22ain Ebrill 2021. Hoffem wahodd cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau sector treftadaeth ar draws gwledydd Prydain …

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF – galw am bapurau Read more »