Mae Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF yn trefnu sesiwn DdysgGwrdd a gynhelir ar 1 Medi 2022 a’r thema fydd Penderfyniadau ar sail data. Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi mai Amy Stubbing (@Amyodo), awdur Data Driven Decisions, fydd ein prif siaradwr yn y digwyddiad.

Ar hyn o bryd, mae Amy yn Arweinydd Ymgysylltu Academaidd ym Mhrifysgol Westminster lle mae’n gyfrifol am gynllunio strategol a datblygu’r ddarpariaeth cymorth dysgu ar gyfer y brifysgol gan gynnwys cysylltu academaidd a datblygu dysgu academaidd.
Mae diddordeb Amy ym maes data a’i ddefnyddio i lywio penderfyniadau a datblygiadau gwasanaeth er mwyn gwella profiad defnyddwyr wedi bod yn rhan graidd o’i gyrfa. Mae Amy wedi gweithio gydag amrywiaeth o lyfrgelloedd mewn prifysgolion i ymgorffori diwylliant o benderfyniadau ar sail data a bydd ei sgwrs yn canolbwyntio ar sut gallwn ni gefnogi cydweithwyr trwy ddefnyddio ymagwedd gyson at ddata a thrwy ei drafod mewn iaith gyson.
Yn diyn hyn, bydd cyflwyniad gan John Dalling, Pennaeth Casgliadau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n gyfrifol am Dîm Casgliadau’r Llyfrgell. Mae’r tîm hwn yn rheoli casgliadau digidol a phrint y Llyfrgell, ynghyd â gwasanaethau systemau a darganfod y Llyfrgell, gan gynnwys System Rheoli’r Llyfrgell, Catalog y Llyfrgell a’r wefan. Bydd John yn canolbwyntio ar ddefnyddio Microsoft PowerBI ar gyfer adroddiadau’r llyfrgell.
Bydd hefyd gyfle ar y diwedd i ymarfer rhai o syniadau Amy a John am gasglu data.
Mae’r rhaglen lawn ar gael isod.
Mae croeso i bawb.
1.15-1.30 Cyflwyniad
1.30-2.30 Amy Stubbing, Data-Driven Decisions
2.30-2.40 Egwyl
2.40-3:15 John Dalling, Consolidating library data reporting at UWTSD using Microsoft PowerBI
3:15-3:45 Gweithgaredd
3:45-4.00 Cau