Mae WHELF a Jisc yn falch o gyhoeddi y gellir archebu lleoedd yn ein cynhadledd Lleisiau Eithriedig.

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gydnabod yr anghydraddoldebau strwythurol sydd i’w gweld yn aml yn ein casgliadau a gwasanaethau, ac ar arddangos mentrau a datblygiadau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r rhain. Y lleisiau cryfaf yn ein casgliadau yn aml yw lleisiau braint, ond mae llawer o storïau eraill a llu o safbwyntiau, weithiau wedi’u cuddio neu eu cadw o’r golwg. Gallai pynciau perthnasol i’w cyflwyno gynnwys datblygu polisïau casglu cynhwysol, amrywio ac ehangu rhestrau darllen a chwricwla, arddangos casgliadau ac arferion amrywiol, ac asesiad beirniadol o duedd yn ein strwythurau a’n polisïau.

O ystyried cryfder yr ymateb i’n galwad am bapurau, mae gennym ddau ddyddiad ar gael. Mae’r ddau’n rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un hoffai eu mynychu, gan roi ffocws arbennig ar lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau sector treftadaeth.

Dylech gofrestru yma:

22ain Ebrill 2021- https://www.eventsforce.net/jiscevents/1074/home

24ain Mai 2021 – https://www.eventsforce.net/jiscevents/1075/home

Gyda diolch i Jisc am gymorth gyda materion technegol ac archebu lleoedd.