Submitted on behalf of WHELF and CILIP Cymru Wales June 2025
Mae WHELF & CILIP Cymru Wales yn cynrychioli’r sectorau llyfrgell, archifau a gwybodaeth yng Nghymru. Rydym ni’n llwyr groesawu strategaeth “Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant” Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig darlun o sector diwylliant gwydn sy’n dathlu Cymru fel cenedl diwylliant. Mae dyrannu £7 miliwn i gefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a’r sector treftadadeth yn gam canmoladwy at gyflawni’r weledigaeth.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes canmoladwy o gynnig cefnogaeth ragweithiol i’r sector, gan gyllido nifer o brosiectau a mentrau blaenllaw traws-sectoraidd megis Casgliad y Werin, Crowd Cymru, Casgliadau Llyfrgell Gwrth-Hiliol a Menter Cadwedigaeth Ddigidol Cymru. Mae’r mentrau hyn wedi arwain at effeithiau cadarnhaol, sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy gyfoethogi llesiant cymunedol, creu lleoedd ac adfywio economaidd, a chânt eu cydnabod am eu heffaith a’r gwerth a gynhyrchir y tu hwnt i Gymru.
Mae’r dull cyllido hwn yn parhau i feithrin arloesi, cynnal a datblygu sgiliau, a hyrwyddo cydweithio a rhannu arferion gorau ar draws sectorau. Mae wedi cryfhau’r sector drwy alluogi dysgu cyfunol, cyflawni arbedion maint drwy gyflwyno gwasanaethau newydd a gwell, a meithrin gwydnwch a diogelu at y dyfodol drwy gyfnodau heriol. Mae hefyd wedi sicrhau buddion amlwg i ddinasyddion Cymru a thu hwnt.
Fodd bynnag, mae llawer o’n rhiant-sefydliadau ar hyn o bryd yn wynebu heriau ariannol difrifol, sy’n peri risgiau cynyddol i’r sector llyfrgelloedd ac archifau sy’n gofalu am gasgliadau ag iddynt arwyddocâd hanesyddol gan gynnwys llawysgrifau, casgliadau archif ystadau a phersonol sy’n cynnwys hanes yn y Gymraeg, llyfrau prin a deunyddiau print. Er enghraifft mae cynnig diweddar Prifysgol Bangor i leihau ei dyled ariannol yn cynnwys toriad llym o 75% yn staff yr archifau (gan leihau o 3 CALl i 0.5 CALl). Mae’r casgliadau ym Mangor sydd ag arwyddocâd hanesyddol yn cynnwys casgliad R.S. Thomas a Phapurau Castell Penrhyn. Mae prifysgolion ac awdurdodau lleol eraill yn wynebu heriau tebyg, sy’n arwain at risg gynyddol o golli sgiliau a gwybodaeth arbenigol ledled y sector yng Nghymru.
Yn sgil yr argyfwng ariannol parhaus o fewn addysg uwch yn y DU ceir bygythiad i gadwraeth ein treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys casgliadau unigryw a nodedig mewn prifysgolion. Mae’r argyfwng yn golygu risg o golli sgiliau prin yng Nghymru, a allai gael effaith ddinistriol ar fynediad y cyhoedd ac ymchwilwyr, cadwraeth, ac ymdrechion cadwedigaeth. Yn ogystal, ceir risg o ran cynnal Achrediadau Archifau Cenedlaethol a CILP.
Er mwyn lliniaru’r risgiau hyn, rydym ni’n galw am fuddsoddiad parhaus fel mater o frys i gefnogi mynediad at ein treftadaeth ddiwylliannol er lles y cyhoedd. Rydym ni’n cynnig y dylid datblygu strategaeth gynhwysfawr i ddiogelu casgliadau llyfrau prin ac archifau yng Nghymru at y dyfodol. Mae WHELF a CILIP Cymru Wales yn barod i gefnogi datblygu strategaeth o’r fath. Rydym ni hefyd yn eiriol dros gyllido canolog, yn debyg i’r hyn a gaiff ei ddarparu gan Research England i amgueddfeydd, orielau a chasgliadau addysg uwch, er mwyn cynnal gwasanaethau craidd a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr ac i’r cyhoedd.