Y gyntaf mewn cyfres o gyfweliadau blog byr ag arweinwyr prosiect mewn sefydliadau WHELF sydd eisoes wedi rhoi System Rheoli Llyfrgell (LMS) a Discovery-Alma a Primo ar waith: Andrew BrownAndrew Brown, Llyfrgellydd Gwasanaethau a Systemau Casglu ym Mhrifysgol Abertawe Dyweda wrthym am Brifysgol Abertawe a’r Gwasanaeth Llyfrgell Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol a arweinir gan ymchwil, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1920. Mae’r Brifysgol wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol, ac yn ddiweddar cyflawnom ein huchelgais strategol o fod yn un o’r 30 o brifysgolion ymchwil gorau, gan saethu i fyny tabl cynghrair Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 i safle 26 yn y Deyrnas Unedig, o safle 52 yn 2008. Agorom Gampws y Bae yn ddiweddar hefyd, datblygiad newydd sbon gwerth £450 miliwn ar y ffordd ddwyreiniol i mewn i’r ddinas, sy’n ategu ein campws presennol, Campws Parc Singleton, sydd hefyd yn destun prosiect trawsnewid uchelgeisiol. Mae’r Llyfrgell a TG ym Mhrifysgol Abertawe wedi gweithredu fel gwasanaeth cydgyfeiriol er 1997, a nawr maent yn rhan o grŵp ehangach o wasanaethau proffesiynol, a elwir y Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau. Dyma rai o ystadegau’r Brifysgol: Staff Academaidd FTE: 1,199 Yr holl staff FTE: 2,627 Myfyrwyr FTE: 13,661 (oddeutu 18,000 o bobl) Cyfanswm Incwm y Brifysgol: £205 miliwn Cyfanswm Incwm Ymchwil: £43 miliwn Safle 26 yn y Deyrnas Unedig yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, gyda mwy na 1/3 yn ‘arwain y ffordd yn fyd-eang’ a 90% yn ‘ardderchog yn rhyngwladol’ ar draws pob disgyblaeth. Beth oedd yr hen system a beth sydd gennych nawr? Cynhaliwyd hen systemau ein system rheoli llyfrgell yn lleol, ac fe’i cyflenwyd gan Ex Libris. Defnyddiom system Ex Libris Voyager (caffael, catalogio, cylchredeg) a datryswr dolenni Ex Libris SFX OpenUrl, a ddarparodd wasanaethau cysylltu i gael mynediad at destun llawn adnoddau ysgolheigaidd ar-lein. Roeddem hefyd wedi cofrestru ar gyfer y system benthyciadau rhyng-lyfrgellol, Clio, a oedd wedi’i hintegreiddio’n fras â Voyager. Ar yr ochr ddarganfod, rhedom fersiwn o VUFind a gynhaliwyd yn lleol, y system darganfod adnoddau ffynhonnell agored. Roedd datblygwr lleol hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y system VUFind. Fel aelod o gonsortiwm System Rheoli Llyfrgell (LMS) a Rennir Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) disodlom y systemau rheoli adnoddau drwy gofrestru ar gyfer y system Ex Libris Alma, sy’n cefnogi ystod o weithrediadau llyfrgell, gan gynnwys caffael, dethol, rheoli metadata a chyflawni (term cenhedlaeth newydd Ex Libris ar gyfer cylchredeg a Chyflenwi Dogfennau neu Fenthyciadau Rhyng-lyfrgellol). Mae Alma yn cymryd lle Voyager, Clio a SFX, ac yn darparu integreiddio rhwng meysydd swyddogaethol gwahanol, yr oedd angen mawr amdano. Cofrestrom hefyd ar gyfer Alma Premium, sy’n golygu bod gennym ein data ein hunain yn y system blwch tywod, ac rydym yn ei hadnewyddu sawl gwaith y flwyddyn. Mae hon wedi bod yn amhrisiadwy wrth brofi cyfluniadau a swyddogaethau newydd. Ar yr ochr darganfod adnoddau, mae’r system Ex Libris Primo wedi cymryd lle VUFind. Disgrifia’r broses rhoi ar waith Cawsom beth y gellid ei ddisgrifio fel amserlen ‘heriol’ ar gyfer y broses rhoi ar waith, a dylwn nodi, ein dewis ni ydoedd yn gyfan gwbl, o ystyried yr amgylchiadau lleol o ran agor campws newydd Prifysgol Abertawe. Cawsom gyfarfod dadansoddi systemau lleol ganol mis Ionawr 2015, ac aeth y systemau newydd yn fyw ar 23 Mehefin 2015. Yr heriau allweddol i ni oedd sicrhau bod y systemau newydd yn barod ar gyfer y campws newydd (a fyddai’n agor fis Awst 2015), mudo ein hen ddata archebion prynu ac, wrth gwrs, yn fwy cyffredinol, yr amserlen dynn roeddem yn gweithio iddi. Rheolom y broses drwy sefydlu grŵp prosiect bach, a oedd yn cwrdd yn rheolaidd drwy gydol cyfnod y prosiect. Roedd y tîm prosiect hwn, yn ogystal â’r tîm cyfatebol yn Ex Libris, yn allweddol i roi ar waith yn llwyddiannus. Roedd gan ein tîm prosiect y set sgiliau berffaith, gan gynnwys arbenigwr mudo data, a oedd wedi gweithio i gyflenwr systemau llyfrgell o’r blaen; aelodau uwch dîm rheoli’r llyfrgell, er mwyn galluogi i’r grŵp ymgysylltu’n effeithiol â’r uwch reolwyr; arbenigwr marchnata, a redodd ein hymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu â rhanddeiliaid; a rhyngom oll, llawer o flynyddoedd o brofiad o reoli a defnyddio systemau llyfrgelloedd. Beth wyt ti wedi’i ddysgu o’r broses?data Data, data, data. Buasem wedi hoffi cael rhagor o amser a llwythi profion, ond nid oedd hynny’n bosib o fewn yr amserlen. Ar nodyn cadarnhaol, gall Alma drin ein data ar ôl ei rhoi ar waith er mwyn i ni allu gweithio drwy’r problemau mudo anochel. Beth yw’r manteision? Un o’r manteision cynnar drwy fod yn rhan o’r garfan gyntaf oedd cynnydd mewn cydweithio â phartneriaid ‘Carfan Un’ (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Rydym wedi datblygu perthnasoedd blaenorol â sefydliadau a fagwyd drwy’r broses rhoi ar waith, ac mae’r cydweithio’n agosach fyth wedi bod yn wych. Un enghraifft ddiweddar o hyn yw problem a gododd gyda Primo ar draws y consortiwm, ac er gwaethaf iddi ddigwydd ar benwythnos, datryswyd y broblem yn gyflym pan sylwodd y partneriaid arni a rhoi gwybod amdani. Beth yw’r prif heriau sydd i ddod? Ar lefel consortiwm, ein prif her yw gwneud y gorau o swyddogaethau consortiwm Alma. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agosach fyth gyda’n gilydd ar bolisïau, cyflunio ac ymarferoldeb, os ydym am gyrraedd ein nodau ar gyfer cydweithio. Rydym hefyd yn wynebu’r her barhaus o wneud y gorau o’n llifoedd gwaith newydd yn Alma. Mewn ychydig o achosion, rydym yn dal i ddefnyddio llifoedd gwaith Voyager, felly mae angen i ni ofyn a allwn wneud rhywbeth yn fwy effeithiol drwy Alma. Yn ogystal, byddwn yn ceisio gwella ein data ym mhob maes yn Alma e.e. o ran caffael, hoffem ddefnyddio Alma i reoli trwyddedau a gwella ein cofnodion o werthwyr. Unrhyw beth arall i’w ychwanegu? Ar ôl chwe mis gyda’r system newydd, credaf ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyflwyniad y gwasanaethau consortiwm, a hefyd at wneud y gorau o Alma a Primo yn lleol.[:]