Cynhelir Colocwiwm WHELF ar-lein eleni dros ddau hanner diwrnod, ddydd Mawrth 14 a dydd Mercher 15 Mehefin 2022, 9:30 – 13:00.
Y thema eleni yw:
Aduno ein cymunedau: Ein Llyfrgelloedd, ein Defnyddwyr a’n Hunain
Bydd y gynhadledd yn dathlu aduniad ein proffesiwn ar ôl cyfyngiadau Covid-19, gweithio gyda’n gilydd unwaith eto yn ein llyfrgelloedd a mabwysiadu arferion gorau o’r dechnoleg rithwir newydd rydym ni wedi addasu iddi dros y 2 flynedd ddiwethaf. Nod ein digwyddiad eleni yw croesawu wynebau cyfarwydd yn ôl a chyflwyno cydweithwyr newydd sydd wedi ymuno â’n cymuned yn ystod y cyfnod digynsail hwn i’r ystod eang o weithgaredd sydd ar waith yn WHELF.
Gallai pynciau posibl ar gyfer cyflwyniadau gynnwys cynwysoldeb, llesiant, dilyniant gyrfa, arweinyddiaeth a newidiadau cadarnhaol i arferion gwaith dros gyfnod y pandemig a thu hwnt.
Gall cyflwyniadau fod mewn tri fformat:
Papurau byr: tua 30 munud, gan gynnwys amser am gwestiynau tua’r diwedd
Gweithdai: sesiynau rhyngweithiol i gynnwys trafodaeth grŵp neu gyfranogi am o ddeutu 30 munud
Sgyrsiau mellt: tua 10 munud, gyda chroeso arbennig i gyflwyniadau gan gydweithiwr sy’n newydd i gyflwyno neu i’r proffesiwn
Gwahoddir Grwpiau WHELF i anfon cyflwyniadau i gyflwyno eu gwaith i’r gymuned, gan gyd-fynd â’r thema ac ar brosiectau cyfredol a datblygiadau diweddar.
Mae croeso i chi ffrydio eich cyflwyniad yn fyw neu recordio ymlaen llaw. Bydd arweiniad i gyflwynwyr, gan gynnwys cyngor technegol, yn dilyn maes o law.
Os hoffech anfon cyflwyniad, cofiwch gynnwys y canlynol:
Enwau’r cyflwynwyr a’u sefydliad/rôl
Teitl a disgrifiad byr o’ch papur
Hyd a fformat y cyflwyniad
Dyddiad cau: 22 Ebrill 2022. Anfonwch at: Gill Morris
Cyhoeddir y rhaglen lawn ym mis Mai 2022.
Trefnir y digwyddiad WHELF hwn gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.