Cefnogi niwroamrywiaeth staff a myfyrwyr ym myd dysgu addysg uwch a llyfrgelloedd

Dydd Gwener 26 Ebrill, 1-3:30pm.

Dolenni:

Passcode: K6zZT3#W

 

 

Os ydych chi’n niwroamrywiol neu’n awyddus i gefnogi a grymuso niwroamrywiaeth yn y gweithle, cofrestrwch ar Teach Meet EDI diweddaraf WHELF ddydd Gwener, 26 Ebrill 1 – 3:30pm

Bydd y cyflwynwyr i gyd yn rhannu arfer da a datblygiadau ym maes recriwtio, ymgysylltu â myfyrwyr a chymorth.

Siaradwyr (y drefn i’w phennu’n ddiweddarach)

Amber Arrowsmith – Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmeriaid ym Mhrifysgol Abertawe: recriwtio Niwroamrywiol-gyfeillgar.

Gwen Couch, Cynghorydd Sgiliau Digidol, PCDDS: Profiadau personol o gael diagnosis o niwroamrywiaeth yn hwyrach mewn bywyd.

Dr Beth Edwards – Cydlynydd Datblygu Addysg Fenter, Prifysgol Bangor: Cefnogi myfyrwyr a staff niwroamrywiol.

Rachel Stelmach – Swyddog Hyfforddiant a Chyllid, Disability Arts Cymru: Mynediad at Waith, budd-daliadau a chymorth i weithwyr niwroamrywiol.