Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF
Diben y grŵp
Sefydlwyd Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF yn wreiddiol mewn ymateb i brotestiadau Black Lives Matter yn 2020. Mae’r grŵp yn bodoli i ddangos ein hymrwymiad cyfunol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy weithredu cadarnhaol a chydlynol, gan ddefnyddio ein cryfder cyfunol i gynyddu cynhwysiant ein gwasanaethau – i’n defnyddwyr a’n staff.
Cenhadaeth a Nodau
- Darparu arweinyddiaeth i WHELF ar bob gweithgaredd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, datblygu arbenigedd a gwneud argymhellion i Fwrdd WHELF a grwpiau WHELF i fwydo i bob maes ymarfer.
- Cynnal adolygiad o bolisïau, strwythurau, gweithdrefnau ac arferion WHELF a gwneud argymhellion ysgrifenedig ar gyfer cynyddu ac ymgorffori cynhwysiant ar draws ein rhwydweithiau.
- Cysylltu â rhwydweithiau proffesiynol eraill yn y maes hwn, gan gynnwys SCONUL, CILIP, DILON (Diversity in Libraries of the North), Grwp Llywio Cydraddoldeb ARLIS, ARCW ac mewn sectorau cyfagos fel Museum Detox i rannu arbenigedd a chydweithio.
- Datblygu rhaglen barhaus o weithredu a digwyddiadau i symud yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei flaen.
Canlyniadau
- Argymhellion i WHELF eu gweithredu i sicrhau bod WHELF yn gorff proffesiynol mwy cyfiawn. Dylai’r rhain gynnwys mentrau tymor byr a thymor hir.
- Rhaglen o sesiynau hyfforddi a gyflwynir i aelodau WHELF, a’r corff proffesiynol ehangach, ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a datgoloneiddio/amrywio.
- Trefnu a chynnal cynhadledd reolaidd ar Leisiau Eithriedig ar draws ein casgliadau a’n gwasanaethau.
Aelodaeth y grŵp:
Catherine Finch – Cadeirydd, Prifysgol De Cymru
Charity Dove– Is-Cadeirydd, Prifysgol Caerdydd
Joy Cadwallader –Prifysgol Aberystwyth
Connie Davage – PCYDDS.
Judith Dray – Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Olivia Edmonds – PCYDDS.
Gary Elliott-Cirigottis – Y Brifysgol Agored/Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Suzy Fisher – PCYDDS
Lori Havard – Prifysgol Abertawe
Jenny Jones – Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Jenny Jones – Prifysgol Wrecsam
Nicola Jones – Prifysgol Caerdydd
Angela Jones-Evans – Prifysgol Caerdydd
Yasmin Noorani – Prifysgol Bangor
Philippa Price – Prifysgol Abertawe