Mae’r Dysgwrdd hwn yn gyfle i arddangos yr amrywiol ffyrdd y mae llyfrgelloedd yn cefnogi ymchwil ac i rannu a dysgu o brofiadau ei gilydd.

Rydym yn croesawu cyfraniadau gan staff y llyfrgell a’r gymuned ymchwil ehangach, gan gynnwys myfyrwyr.

Cynhelir y Dysgwrdd yn fyw ar MS Teams ddydd Mawrth 23 Tachwedd 2021.

Llyfrgellwyr

  • Sut mae’r llyfrgell yn eich sefydliad yn cefnogi ymchwil?
  • Pa ddulliau ydych chi wedi’u defnyddio i ddarganfod anghenion ymchwilwyr a beth ydych chi wedi dod o hyd iddo?
  • Sut ydych chi wedi datblygu’ch ystod o sgiliau eich hun iddynt fod yn berthnasol i’r ymchwilwyr rydych chi’n cynnig cymorth a hyfforddiant iddynt?

Ymchwilwyr

  • Ydych chi’n fyfyriwr ymchwil neu’n aelod o staff ymchwil sydd wedi derbyn cymorth gan y llyfrgell?
  • Beth all llyfrgellwyr ei ddysgu gennych i ddatblygu a marchnata’r cymorth a’r hyfforddiant maent yn cynnig?

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal drwy MS Teams a gellir recordio eich cyflwyniad o flaen llaw neu gyflwyno’n fyw. 

Cwblhewch yr arolwg byr i gofrestru’ch diddordeb mewn cymryd rhan os gwelwch yn dda.

Cwestiynau? Ebostiwch y tîm Ymgysylltu Academaidd llyfrgellwyr@aber.ac.uk

Llun yn cynnwys testun

Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig