Meddai Amy Staniforth:
Cafodd Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a Llyfrgell Ardal y Drenewydd eu cydnabod gan CILIP Cymru Wales, y gymdeithas Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yng Nghymru, am eu hymrwymiad anhygoel a’u gwasanaethau blaengar yn ystod 2020 gythryblus.
Mae’r Wobr, a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Nick Poole, Prif Weithredwr CILIP yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales ar ddydd Iau (3ydd Rhagfyr), yn dathlu cyflawniadau proffesiynol eithriadol gan dimau’n gweithio ym maes Gwasanaethau Llyfrgell/Gwybodaeth yng Nghymru.
Fel cyd enillwyr y wobr gyntaf mae’r ddau dîm yn mynd â £400 yn ôl i’w gwasanaeth.
Yr Ail Wobr
Y tîm a enillodd yr ail wobr oedd Tîm Catalogio Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF), a enwebwyd gan Alan Hughes o Brifysgol Caerdydd. Meddai Alan: “Cafodd Tîm Catalogio WHELF effaith drawsnewidiol ac adfywiol ar ail-ddyfeisio gweithgareddau catalogio ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r bartneriaeth Cymru gyfan o 14 sefydliad addysg uwch ac ymchwil – trwy hyder tawel, arbenigedd a chysylltiadau proffesiynol – wedi gallu treiddio rhwydweithiau llawer ehangach a dylanwadol. Cafodd Alan ei ryfeddu gan eu gallu i ail-frandio gweithgaredd a fu’n draddodiadol yn un cuddiedig ac unigol yn rym blaenwynebol gyda Chymru’n arwain y sector.”
Roedd y beirniaid yn cytuno, gan ddweud: “Roedd yn braf gweld cais gan dîm mor allweddol, sy’n aml yn cael ei ddiystyru ond sy’n rhan hanfodol o ddarparu gwasanaethau Llyfrgell craidd. Mae eu gwaith yn cefnogi sefydliadau WHELF yn gwneud argraff ehangach hefyd, trwy’r gwaith partneriaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.” Fel enillwyr yr ail wobr mae Tîm Catalogio WHELF yn mynd â £100 yn ôl i’w rhwydwaith.