Mae grwp Ymchwil WHELF wedi trefnu sesiwn yn edrych ar ddefnyddio Wicipedia/media/data ar gyfer gweithgareddau ymchwil:
Dewch i weld sut y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn defnyddio Wikipedia a’i chwaer brosiectau i ennyn diddordeb y cyhoedd, i rannu cynnwys digidol ac i gyfoethogi metadata. Fe ddysgwch fwy am y ffordd y defnyddir y llwyfannau hyn ar gyfer ymchwil ac i wella rhyngwynebau canfod cynnwys. Yn dilyn y cyflwyniad bydd cyfle i holi cwestiynau, ac i ddysgu dulliau sylfaenol o roi data ar Wikipedia, Wikimedia Commons a Wikidata mewn sesiwn ymarferol. Ceir hefyd gyfle i ddysgu sut i holi/chwilio y 70 miliwn o eitemau data yn Wikidata trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ymholi.
Arweinir y sesiwn gan Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol. Mae Jason yn cydlynnu cydweithio rhwn y Llyfrgell Genedlaethol, Wikimedia UK a’r cymuned Wici ac yn arwain gweithgareddau sy’n ymwneud â chasgliadau’r Llyfrgell, Cymru fel cenedl a/neu’r iaith Gymraeg.
Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim gyda chofrestru trwy Eventbrite.