Mae’n bleser gan WHELF a Jisc Cymru gyhoeddi bod modd archebu lle bellach yng nghynhadledd Lleisiau Eithriedig eleni

Cynhelir y gynhadledd undydd am ddim ar-lein ar 29 Mehefin 2022. Rydym ni’n annog cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau’r sector treftadaeth ar draws y DU ac Iwerddon i ymuno â ni.

Yn 2022, rydym ni’n adeiladu ar y themâu sylfaenol a osodwyd yng nghynhadledd gyntaf Lleisiau Eithriedig. Ein bwriad yw mynd i’r afael â chynwysoldeb a hygyrchedd mannau (corfforol ac ar-lein) a byddwn yn ystyried y ffyrdd y gall croestoriadedd lleisiau ffurfio polisi, casgliadau, gwasanaethau a diwylliant sefydliadol. Bydd Lleisiau Eithriedig 2022 yn arddangos y ffyrdd y gallwn barhau gyda gwaith i ddileu rhwystrau lle bynnag rydym ni’n dod ar eu traws.

Excluded-Voices-29-June-2022-FINAL-programme

 

Mae’r canlynol ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau:

Cyflwyniad i’r Pecyn Cymorth Amrywiaeth a baratowyd gan Melian Dialogue i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru – Sally McInnes, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Prosiect Curaduron Amrywiaeth Prifysgol De Cymru – José Lopez Bianco, Sian Chaney-Price a Gill Edwardes, Prifysgol De Cymru.

Lleisiau Amrywiol: Archwilio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y cwricwlwm ym Mhrifysgol Glyndŵr – Zoë Collyer-Strutt, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Asesiad Beirniadol o Degwch Gwasanaethau Llyfrgell drwy Arolwg Blynyddol y Myfyrwyr – Tracey Stanley, Prifysgol Caerdydd a Kia Duplock, Prifysgol Caerdydd/Prifysgol De Cymru.

Gallwn wneud ein haddysgu a’n dysgu’n fwy amrywiol a theg – os byddwn yn cydweithio – Aimee Jones a Leanne Freeman, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dianc o’r islawr tawel – Alice Corble a Danny Millum, Prifysgol Sussex

Darllen am Hil – Grwpiau Darllen ac Ymarfer Gwrth-Hiliol mewn Llyfrgelloedd ac Archifau – Sara Huws Prifysgol Caerdydd ac Amy Staniforth, Prifysgol Aberystwyth/CILIP Cymru.

Arferion amrywiaeth a chynhwysiant yn nhîm Ymgysylltu Academaidd a Datblygu Dysgu’r llyfrgell – Daniela de Silva, Prifysgol Westminster.

Defnyddio sgyrsiau wedi’u llywio gyda staff – Martha Ashford, Prifysgol Caerdydd.

Prif siaradwyr:

  • Mymuna Soleman o’r Privilege Cafe yng Nghaerdydd

  • Teresa Waldron, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Rheoli Deafinitely Women: – sefydliad yn Swydd Derby sy’n cynnig gwybodaeth a chyfleoedd addysgol i fenywod B/byddar a byddarddall.

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Gill Morris, Swyddog Datblygu WHELF

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar 29 Mehefin!!