Dydd Mercher 16 Mawrth 2022 – 11:00 AM – 13:00 PM
Mae CILIP Cymru Wales a Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) yn eich gwahodd i sesiwn Panel Holi ac Ateb e-gynnwys rhad ac am ddim.
Mae llyfrgelloedd ar draws sectorau yng Nghymru yn gynyddol yn dyrannu mwy o gyllideb i gynnwys electronig. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio gwahanol ddulliau gweithredu sector a’r heriau y mae llyfrgelloedd yn eu hwynebu wrth negodi a phrynu e-adnoddau.
Dewch i gael eich ysbrydoli gan wersi a ddysgwyd ac arferion gorau o bob rhan o Gymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn Gymraeg a Saesneg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.