Thema Colocwiwm ar-lein WHELF eleni yw ‘Canfod Llonyddwch yn yr Anhrefn’. Hoffem ganolbwyntio ar y ffordd rydyn ni’n addasu i newid er mwyn gwella ein gwasanaethau mewn cyfnod sy’n wirioneddol heriol.
Rydyn ni wedi nodi rhai syniadau a allai sbarduno cynnig am sesiwn, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac os oes gennych chi syniad am rywbeth arall a fyddai’n cyd-fynd â’r thema, mae croeso i chi ei anfon atom i’w ystyried.
· Newid arferion gwaith i fodloni anghenion gwasanaeth newydd neu sydd eisoes yn bodoli.
· Defnyddio heriau fel cyfleoedd i adolygu ‘y ffordd rydyn ni wastad wedi’i wneud’.
· Ymchwilio i dechnolegau newydd i wella’r ffordd y caiff gwasanaeth ei gyflenwi.
· Dulliau ymarferol ar gyfer newid a gwella gwasanaethau.
Ambell enghraifft yn unig yw’r uchod, ac os oes gennych chi syniad, ewch ati i’w rannu gyda ni.
I gyflwyno eich cynnig, cwblhewch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener 14 Mawrth, 2025.
