Digwyddiad Prifysgol Bangor: Wythnos Llyfr Academaidd
Wythnos Llyfr Academaidd: Dathliad o amrywiaeth, arloesedd a dylanwad llyfrau academaidd. 09-16 Tachwedd 2015, ar draws y DU a thu hwnt. Gweler mwy yma: http://acbookweek.com/
Digwyddiad Prifysgol Bangor 11 Tachwedd: Technolegau Darllen / The Technologies of Reading
Digwyddiad agored i’r holl staff a myfyrwyr yn y Brifysgol ac yn agored i aelodau o’r cyhoedd.
15.00-16.00 Ystafell Ddarlithio 1 (LR1) Prif Gelfyddydau
Yr Athro Astrid Ensslin: “Digital Fiction: Texts, Technologies, Techniques of Reading”
Mared Roberts: Disgrifio prosiect DECHE: prosiect a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ailgyhoeddi, fel e-llyfrau, llyfrau Cymraeg pwysig sydd yn hanfodol i ysgolheictod drwy gyfrwng y Gymraeg nad ydynt mewn print.
Dr Llion Jones: “E-lyfrau trwy lygaid cyhoeddwr Cymraeg”
16.15-17.00 Te/coffi a chacen ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau
17.00-18.00 Darlith Shankland: Dr Eben Muse: “Textual evolution and the future of reading”, Ystafell Ddarllen Shankland, Prif Lyfrgell y Celfyddydau
Gadewch i ni wybod os byddwch yn dod drwy e-bostio: c.a.roberts@bangor.ac.uk