Select Page

Gair am WHELF

Mae WHELF wedi sefydlu nifer o grwpiau i helpu i roi cyngor arbenigol a chefnogi WHELF yn ei dasgau cydweithredol.

Mae gan bob grŵp gynrychiolaeth o aelod lyfrgelloedd WHELF ac maent yn cwblhau cylch gorchwyl sy’n nodi aelodaeth ac amcanion. Hefyd mae gan bob grŵp Gadeirydd i gynnal a chydlynu cyfarfodydd a dosbarthu tasgau i aelodau’r grŵp. Caiff gwaith y grwpiau ei gyfarwyddo gan Gynllun Gweithredu WHELF ac yn ei dro cyfeiria’r grwpiau unrhyw faterion i’w trafod at WHELF..

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Cenhadaeth WHELF: cydweithio a phartneriaeth

Cenhadaeth WHELF yw hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth, annog cyfnewid syniadau, darparu fforwm ar gyfer cyd-gefnogaeth a helpu i hwyluso mentrau newydd wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth.

Mae WHELF yn hyrwyddo gwaith llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac yn darparu canolbwynt ar gyfer datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.

Er lles ein llyfrgelloedd, ein sefydliadau a’n defnyddwyr, ein nod yw:

  • Codi proffil a gwerth gwasanaethau a datblygiadau gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth sefydliadau addysg uwch Cymru, yn ein sefydliadau ein hun, yng Nghymru a’r tu hwnt;
  • Dylanwadu ar lunwyr polisi ac arianwyr mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin;
  • Cyflwyno gwasanaethau a datblygiadau cydweithredol er lles sefydliadau sy’n aelodau a’u defnyddwyr;
  • Gweithio gyda sefydliadau, sectorau a pharthau eraill i gefnogi datblygiad rhwydwaith cydweithredol o lyfrgelloedd yng Nghymru a’r DU;
  • Cefnogi ein gilydd a darparu cyfleoedd i rannu arfer da drwy gyfarfodydd, rhestrau postio etc;
  • Darparu cyfleoedd datblygu a hyfforddi staff i sefydliadau sy’n aelodau.
Cynrychiolwyr WHELF

Cadeirydd WHELF: Mark Hughes
Is-gadeirydd WHELF: Tracey Stanley
Trysorydd WHELF: Julie Hart
Swyddog Datblygu WHELF: Gill Morris

Cynllun Strategol WHELF 2024-2030
Cynllun Strategol 2020-2024