Hawlfraint
Mae WHELF yn cynnal Grŵp Hawlfraint i rannu arbenigedd a lledaenu gwybodaeth ymysg llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru.
Cylch Gorchwyl:
Lle y bo’n briodol, ymdrechu i ddylanwadu ar Brifysgolion y DU (UUK), yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) ac asiantaethau trwyddedu eraill ynghylch ystod lawn o faterion hawlfraint sy’n berthnasol i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Rhannu arfer gorau ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am hawlfraint yn sefydliadau addysg uwch Cymru.
Lledaenu gwybodaeth ymhlith swyddogion hawlfraint ac ymarferwyr eraill mewn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau perthnasol eraill.
Lledaenu gwybodaeth am faterion hawlfraint ymhlith staff a myfyrwyr drwy amgylcheddau dysgu rhithwir a sianelau cyfathrebu eraill fel y bo’n briodol.
Ceisio dod o hyd i atebion i gwestiynau penodol.
Ystyried a chymharu’r trwyddedau hawlfraint sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch.
Aelodaeth
- Cynrychiolydd arweiniol sy’n gyfrifol am hawlfraint o bob sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
- Cynrychiolydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Ail gynrychiolydd wedi’i enwebu gan bob sefydliad i fynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen.
- Ym mhob cyfarfod, bydd aelod yn gweithredu fel trefnydd a chadeirydd.
Cadeiryddion ar y Cyd: Marie Lancaster (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd) /Scott Pryor (Prifysgol Caerdydd)
Prifysgol Bangor: Jenny Green
Prifysgol Abertawe: Caroline Rauter
Prifysgol De Cymru: Rachael Johnson
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Emily Hywel
Prifysgol Glyndŵr: Nicola Watkinson
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Megan Wiley