University of Wales launch open access Dictionary

Neges ddwyieithog yw hon – Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
This is a bilingual message – Please see below for English version

Yr Athro Dafydd Johnston
Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:

Mynediad agored yw un o’r materion pwysicaf ym maes cyhoeddi academaidd ar hyn o bryd. Yr egwyddor hanfodol yw y dylai ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus fod ar gael yn rhydd er budd y cyhoedd. Mae hyn yn gosod her i gyhoeddwyr traddodiadol, a bydd unrhyw newid yn gorfod bod yn raddol, gan ddechrau gydag erthyglau mewn cyfnodolion academaidd, y mae’r mwyafrif ohonyn nhw eisoes yn cael eu cyhoeddi ar-lein.
Mae technoleg yn hanfodol ar gyfer darparu mynediad agored, ac mae’n gweithio orau fel ffordd effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd targed pan gaiff ei defnyddio o ddechrau unrhyw brosiect ymchwil. Fy mhrofiad cyntaf i o’r dull hwn oedd pan fûm i’n arwain prosiect ym Mhrifysgol Abertawe a gynhyrchodd olygiad electronig o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym, a lansiwyd yn 2007. Roedd cyhoeddi ar-lein yn caniatáu i ni ddarparu adnodd dwyieithog lle gall y defnyddiwr ddewis rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae’r safle ar gael ar-lein am ddim www.dafyddapgwilym.net
Ers i mi ymuno â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth mae mynediad agored wedi datblygu’n fater pwysig yn sgil y cyllid mae’r Ganolfan yn ei ddenu oddi wrth Gynghorau Ymchwil ar gyfer ei phrosiectau tîm. Yr hyn fyddwn ni’n ei wneud yw cynllunio adnoddau digidol o’r dechrau, fel y gwnaethom gyda’r golygiad o waith un o enwau mawr eraill y traddodiad barddol Cymraeg, Guto’r Glyn, a lansiwyd yn www.gutorglyn.net yn 2012. Yn fuan byddwn yn cyhoeddi fersiwn print i’w brynu gan unrhyw un sy’n dymuno cael y farddoniaeth ragorol hon ar ei silffoedd, ond mae holl gynnyrch ein hymchwil ar gael eisoes am ddim ar-lein.
Ymhlith yr adnoddau ar-lein newydd sydd ar y gweill mae testunau a chyfieithiadau o’r holl ddeunydd Cymraeg sy’n ymwneud â seintiau Cymru, cronfa ddata o ddata archeolegol ac ieithyddol allweddol yn gysylltiedig â tharddiad yr ieithoedd Celtaidd, a rhestr o enwau llefydd Cymru. Lyfrgell Genedlaethol Cymru fydd yn cynnal yr holl adnoddau hyn.
Fel canolfan ymchwil arbenigol mae partneriaeth yn hanfodol i’n strategaeth mynediad agored. Drwy dynnu ar arbenigedd sefydliadau partner gallwn sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl gan barhau’n gynaliadwy ar yr un pryd. Rydym ni’n ffodus ein bod yn gallu cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol ar y Bywgraffiadur Cymreig, un o amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael am ddim ar wefan y Llyfrgell. Bu’r cyfrolau print yn weithiau cyfeiriol hanfodol ers blynyddoedd mawr, ac erbyn hyn gellir chwilio eu cynnwys ar-lein a’u diweddaru’n rheolaidd er mwyn cyfoethogi’r trysor cenedlaethol hwn i’r dyfodol.
Y cynnyrch diweddaraf i’w gynnig gennym ar ffurf mynediad gored yw fersiwn ar-lein Geiriadur Prifysgol Cymru, a lansiwyd heddiw yn y Senedd. Cyfrolau trymion y geiriadur hanesyddol hwn yw un o ogoniannau ysgolheictod Cymraeg, ond mae’r cyfoeth sydd ynddynt bellach ar gael i unrhyw un sydd â chyswllt gwe. Ar ôl derbyn cyllid cyhoeddus ers yn agos i ganrif, mae’n briodol fod y cofnod hwn o’n hetifeddiaeth ieithyddol bellach ar gael am ddim i bobl Cymru a’r byd yn www.geiriadur.ac.uk
 
Cyhoeddwyr yr erthygl hon yn y Western Mail ddydd Iau 26 Mehefin 2014.
http://www.wales.ac.uk/cy/NewsandEvents/Newyddion/CAWCS/University-View-Professor-Dafydd-Johnston.aspx

Professor Dafydd Johnston Director, University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies:
Open access is currently a big issue in academic publishing. The essential principle is that publicly funded research should be made freely available for the benefit of the public. This poses a challenge to traditional publishers, and change can only happen gradually, beginning with articles in academic journals, most of which are already published online.
Technology is crucial for open access provision, and it works best when used from the start of a research project as the most effective way of reaching target audiences. My first experience of this approach was when I led a project based at Swansea University which produced an electronic edition of the poetry of Dafydd ap Gwilym, launched in 2007. Publication online allowed us to provide a bilingual resource in which the user can choose between Welsh and English, and the site is available online free of charge at www.dafyddapgwilym.net
Since I joined the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies in Aberystwyth open access has become a major concern because of the amount of Research Council funding that the Centre attracts for its team-based projects. Our approach has been to design digital resources from the outset, as we did with the edition of another big name of the Welsh bardic tradition, Guto’r Glyn, launched at www.gutorglyn.net in 2012. We will soon be publishing a print version for purchase by those who wish to have this fine poetry on their shelves, but all the fruits of our research are already freely available.
New online resources in the pipeline include texts and translations of all Welsh-language material relating to the saints of Wales, a database of key archaeological and linguistic data relating to the origins of the Celtic languages, and a gazetteer of Welsh place-names. All these resources will be hosted by the National Library of Wales.
As a specialist research centre partnership is essential to our open access strategy. By drawing on the expertise of partner institutions we can ensure that our work reaches the widest possible audience and remains sustainable. We are fortunate in being able to collaborate with the National Library on the Dictionary of Welsh Biography, one of a range of resources freely accessible on the NLW website. The printed volumes have been essential works of reference for many years, and now their contents can be searched online and regularly updated in order to enhance this national treasure for the future.
Our latest output to be offered in open access is the online version of Geiriadur Prifysgol Cymru, the University of Wales Dictionary, launched today at the Senedd. The weighty tomes of this historical dictionary are one of the glories of Welsh scholarship, but the riches they contain can now be consulted far more easily by anyone with internet access. Having been publicly funded for almost a century it is only right that this record of our linguistic heritage should now be made freely available to the people of Wales and the world at www.geiriadur.ac.uk
This article was published in the Western Mail on Thursday the 26th of June, 2014.
http://www.wales.ac.uk/en/NewsandEvents/News/CAWCS/University-View-Professor-Dafydd-Johnston.aspx

 

Leave a Reply

Your email address will not be published.

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.