LMS milestoneDdydd Sul, 6 Rhagfyr roedd staff y llyfrgell a staff TG Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn brysur yn cynnal y gwiriadau terfynol cyn i’r system rheoli llyfrgell (LMS) newydd fynd yn fyw.

Nododd lansiad llwyddiannus y system newydd, Ex Libris Alma a Primo, garreg filltir allweddol yn y rhaglen i gynnal system rheoli llyfrgell a rennir ar draws sefydliadau WHELF. Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol De Cymru eisoes yn gweithredu’r un LMS yn fyw, ac ar ddiwedd 2016 bydd prifysgolion eraill Cymru a llyfrgelloedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru hefyd yn defnyddio’r un LMS.

Mae’r garfan gyntaf bellach wedi rhoi Alma a Primo ar waith yn llwyddiannus, mae proses Carfan 2 (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) eisoes yn mynd rhagddi ac mae’r garfan olaf (Prifysgol Caerdydd a’r GIG, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Bangor) yn paratoi ar gyfer dechrau’r broses rhoi ar waith.

Ar yr un pryd, mae’r gwaith i sicrhau manteision pellach i’r platfform LMS a rennir yn parhau, gan gynnwys gwaith i ddatblygu cyfleoedd pellach i gydweithio ac i wireddu manteision LMS a rennir.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn i gydweithio a sut rydym yn bwriadu darparu manteision y cyfleoedd hyn yn dilyn yn y flwyddyn newydd.