Datganiad WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch): Cyd-drafodaethau Elsevier

Mae ein prifysgolion wedi ymrwymo’n llawn i ymagwedd Tîm Cyd-drafod Elsevier y DU ac yn cefnogi’r argymhelliad i wrthod y chweched cynnig gan Elsevier ar y sail nad yw eto’n bodloni dau amcan craidd y trafodaethau: lleihau costau i lefelau cynaliadwy, a hwyluso pontio cyflym at fynediad llawn ar unwaith at ymchwil y DU.

Mae prifysgolion y DU wedi cytuno ar gyfres o amcanion cyd-drafod sy’n adlewyrchu ein hawydd cyffredin i feithrin ymchwil agored. Rydym yn croesawu’r cynnydd mae Tim Cyd-drafod Elsevier wedi’i wneud gydag Elsevier dros y misoedd diwethaf, gan nodi hefyd eu cyngor nad yw’r cynnig cyfredol yn bodloni gofynion y sector eto. Gobeithiwn y gall y ddau barti barhau i gydweithio i gyflawni cytundeb mwy cyfiawn sy’n caniatáu ar gyfer rheolaeth ar draws y sector ar gyfer pontio at fynediad agored.

Fel consortiwm, bydd WHELF yn parhau i gydweithio’n agos i sicrhau bod yr adnoddau dysgu’n cael eu darparu i’n haelodau mewn model sy’n gwneud y defnydd mwyaf cost effeithiol o gyllidebau Sefydliadau.

Bwrdd WHELF:

Alison Harding, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Cadeirydd WHELF

Mark Hughes, Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Is-gadeirydd WHELF

Julie Hart, Prifysgol Aberystwyth: Trysorydd WHELF

Kristine Chapman, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Andrew Dalgleish, Prifysgol De Cymru

Judith Dray, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Gary Elliott-Cirigottis, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Lori Havard, Prifysgol Abertawe

Tracey Middleton, Prifysgol Bangor

Owain Rhys Roberts, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Tracey Stanley, Prifysgol Caerdydd

Nicola Watkinson, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam