WHEEL
Mae Llyfrgell Electronig Addysg Uwch Cymru (WHEEL) yn cydweithio i gaffael adnoddau electronig ar y cyd, gan gynnwys:
- nodi cyfleoedd prynu/trwyddedu adnoddau, tanysgrifiadau a gwasanaethau cynnwys electronig ar y cyd.
- nodi, cyd-drafod a gwerthuso darpar gytundebau
- rheoli trefniadau gweinyddol mewnol ar y cyd ar gyfer cytundebau (e.e. trefniadau anfonebu ar y cyd)
Mae ymagwedd WHEEL yn seiliedig ar ysgogi mynediad a gwerth cyffredin ar draws sefydliadau sy’n aelodau; ond mae ei gylch gwaith hefyd yn cynnwys caffael adnoddau ar gyfer is-grwpiau o aelodau lle efallai na fyddai’r cynnwys dan sylw’n briodol ar gyfer yr holl aelodau.
Manylion aelodau:
- Tracey Middleton, Cadeirydd (Prifysgol Bangor)
- Tom Francis, Is-gadeirydd (Prifysgol Aberystwyth)
- Wayne Morris, Ysgrifennydd (Prifysgol De Cymru)
- Chrissie Ley Hughes (Prifysgol Bangor)
- Luisa Cáceres-Soto (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd)
- Mark Hughes (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd)
- Julie Neenan (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd)
- Kathryn Hudson (Prifysgol Caerdydd)
- Tracey Stanley (Prifysgol Caerdydd)
- Kristine Chapman (Amgueddfa Cymru )
- Robert Lacey (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
- Helen Bader (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
- Annette Linton (Prifysgol Abertawe)
- John Dalling (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
- Suzy Fisher (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
- Nicola Watkinson (Prifysgol Glyndŵr Wrecsam)
Caffael adnoddau electronig ar y cyd
Gan weithio gyda Chasgliadau JISC, mae WHEEL wedi llwyddo i roi nifer o gytundebau ar waith i sicrhau bod cynnwys ar gael i aelodau sy’n rhan o’r consortiwm.
Mae’r rhestr o’r cytundebau sydd ar waith yn cynnwys pecynnau cynnwys gan y cyflenwyr canlynol:
- Gale Cengage – Archif Ddigidol The Times
- Gwasg y Brifysgol Agored – cynnwys cyfnodolion
- Sage – Cynnwys cyfnodolion
- Wiley – Is-adran o gytundeb cynnwys cyfnodolion JISC
Mae holl lyfrgelloedd WHELF hefyd wedi’u cynnwys yn y gwasanaethau Porth Ystadegau Defnydd Cyfnodolion (JUSP) a KnowledgeBase+ a ddarperir gan JISC.
Drwy gymryd rhan yn y gwasanaethau hyn gan JISC, a phlatfform System Rheoli Llyfrgell a Rennir arloesol WHELF (mae’r grŵp yn ymwneud yn agos â’r llinyn gwaith hwn), mae WHEEL yn ceisio mabwysiadu ymagwedd gydweithredol at reoli prosesau a data defnyddio er mwyn cyflawni effeithlonrwydd ac arbedion ar gyfer ei aelodau ym maes caffael adnoddau.
Mae WHEEL hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chonsortiwm Prynu Prifysgolion y De a Chonsortiwm Prynu Addysg Uwch Cymru ym maes cytundebau ar sail consortiwm i gyflenwi llyfrau a gwasanaethau tanysgrifiadau cyfresol.
Mae WHEEL yn grŵp gweithgar sy’n cwrdd 4 gwaith y flwyddyn drwy gyfrwng cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chynadleddau fideo.