Archifau a Chasgliadau Arbennig
Mae gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r rhan fwyaf o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Diben y Grŵp yw darparu fforwm i lyfrgellwyr Prifysgolion a LlGC sy’n aelodau WHELF a’u henwebeion gweithredol er mwyn:
- Cydweithio ar brosiectau a rennir
- Nodi cyfleoedd ariannu ar y cyd
- Rhannu canlyniadau
- Cydweithio i hyrwyddo archifau a chasgliadau arbennig a chynyddu ymwybyddiaeth ohonynt
- Cyflwyno materion i WHELF i’w trafod
Aelodaeth y grŵp:
Cadeirydd: Kristine Chapman (Amgueddfa Cymru)
Elen Simpson (Archifau Prifysgol Bangor)
Julie Archer (Prifysgol Aberystwyth)
Sarah Jones (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
Rob Phillips (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Alan Vaughan Hughes (Prifysgol Caerdydd)
Ian Glen (Prifysgol Abertawe)
Doreen Barnaville (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd)
Megan Wiley (RWCMD)