Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF

Diben y grŵp

Sefydlwyd Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF yn wreiddiol mewn ymateb i brotestiadau Black Lives Matter yn 2020. Mae’r grŵp yn bodoli i ddangos ein hymrwymiad cyfunol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy weithredu cadarnhaol a chydlynol, gan ddefnyddio ein cryfder cyfunol i gynyddu cynhwysiant ein gwasanaethau – i’n defnyddwyr a’n staff

Cenhadaeth a Nodau

· Darparu arweinyddiaeth i WHELF ar bob gweithgaredd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, datblygu arbenigedd a gwneud argymhellion i Fwrdd WHELF a grwpiau WHELF i fwydo i bob maes ymarfer.

· Cynnal adolygiad o bolisïau, strwythurau, gweithdrefnau ac arferion WHELF a gwneud argymhellion ysgrifenedig ar gyfer cynyddu ac ymgorffori cynhwysiant ar draws ein rhwydweithiau.

· Cysylltu â rhwydweithiau proffesiynol eraill yn y maes hwn, gan gynnwys SCONUL, CILIP, DILON (Diversity in Libraries of the North), Grwp Llywio Cydraddoldeb ARLIS, ARCW ac mewn sectorau cyfagos fel Museum Detox i rannu arbenigedd a chydweithio.

· Datblygu rhaglen barhaus o weithredu a digwyddiadau i symud yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei flaen.

Canlyniadau

· Argymhellion i WHELF eu gweithredu i sicrhau bod WHELF yn gorff proffesiynol mwy cyfiawn. Dylai’r rhain gynnwys mentrau tymor byr a thymor hir.

· Rhaglen o sesiynau hyfforddi a gyflwynir i aelodau WHELF, a’r corff proffesiynol ehangach, ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a datgoloneiddio/amrywio.

· Trefnu a chynnal cynhadledd reolaidd ar Leisiau Eithriedig ar draws ein casgliadau a’n gwasanaethau.

Tracey Stanley – Cadeirydd, Prifysgol Caerdydd

Catherine Finch – Is-Cadeirydd, Prifysgol De Cymru

Joy Cadwallader – Prifysgol Aberystwyth

Charity Dove – Prifysgol Caerdydd

Judith Dray – Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Gary Elliott-Cirigottis – Y Brifysgol Agored /Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Suzy Fisher – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Alison Harding – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Lori Havard – Prifysgol Abertawe

Jenny Jones – Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Nicola Jones – Prifysgol Caerdydd

Angela Jones-Evans – Cardiff University

Gill Morris – Swyddog Datblygu WHELF/Prifysgol Abertawe

Yasmin Noorani – Prifysgol Bangor

Philippa Price – Prifysgol Abertawe

Nicola Watkinson – Prifysgol Glyndŵr Wrecsam