Mae Cynllun Strategol WHELF yn cwmpasu’r cyfnod 2020-2024. Pwy fyddai wedi gallu rhagweld pandemig Covid-19 a’i effaith ar sefydliadau WHELF a’u harferion gwaith?

Ddydd Gwener 3 Mawrth cynhaliwyd dau ddiwrnod cwrdd i ffwrdd cynllunio strategol ar yr un pryd. Yn y gogledd, arweiniodd Beth Hall (Cyfoeth Naturiol Cymru a Tracey Middleton (Bangor) y trafodaethau ym Mhrifysgol Bangor. Yn y de, cyfarfu cydweithwyr ar gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru, yn adeilad hyfryd yr Atriwm. Roedd y sesiwn hon dan arweiniad Mark Hughes (Met Caerdydd – Cadeirydd WHELF 2023-25) ac Alison Harding (Cadeirydd WHELF 2021-2023)

Cytunodd pawb fod hwn yn gyfle gwych i ddal i fyny gyda chydweithwyr, ac mewn rhai achosion cyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Roedd yr arlwyo yn ddau leoliad yn rhagorol, gyda chanmoliaeth arbennig i’r brownies siocled a fwynhawyd gan bawb ym Mangor!

Roedd y diwrnod yn gyfuniad o sesiynau trafod mewn grwpiau a thrafodaeth grŵp cyfan a rhannu gwybodaeth.  Mae gan Swyddogion WHELF ddigonedd o nodiadau a syniadau nawr i ffurfio sail ar gyfer Cynllun Strategol nesaf WHELF.