Mae’n bleser gan WHELF eich hysbysu bod yr adroddiad canlynol wedi’i gyhoeddi: “Gwerthuso buddion ymagwedd consortiwm at system rheoli llyfrgell WHELF”. Gyda chymorth ariannol gan JISC, comisiynodd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) Cambridge Econometrics i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r prosiect i gaffael system rheoli llyfrgell a rennir a’i rhoi ar waith yn y naw prifysgol yng Nghymru, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd y GIG yng Nghymru  Mae’r adroddiad hwn yn darparu fframwaith awdurdodol ac annibynnol ar gyfer nodi a chofnodi’r manteision a gyflawnwyd. Ategir yr adroddiad gan dair astudiaeth achos ardderchog o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Croesawyd yr adroddiad a’r astudiaethau achos gan Emma Adamson, Cadeirydd WHELF  a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru: ‘Mae manteision rhannu, a ddatgelwyd gan adroddiad Cambridge Econometrics ar y broses o roi systemau rheoli llyfrgell a rennir, Ex Libris Alba a Primo, ar waith yn llyfrgelloedd WHELF ledled Cymru, yn dystiolaeth glir ac annibynnol o’r gwerth a’r manteision sylweddol sy’n deillio o gydweithio: boed y rhain yn economaidd neu drwy arloesi neu ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o gydweithio. Ar ran WHELF, hoffwn ddiolch i JISC, Cambridge Econometrics ac Ex Libris am eu cymorth wrth gomisiynu’r astudiaeth bwysig hon o fanteision rhannu. Hoffwn ddiolch hefyd i bob un o’r 600 o aelodau staff yn y llyfrgelloedd a’u cydweithwyr ar draws sefydliadau WHELF a gyfrannodd at roi’r system rheoli llyfrgell a rennir ar waith ledled Cymru. Maen nhw wedi cydweithio i’n helpu i gyflawni manteision rhannu casgliadau WHELF: er budd dysgwyr ac ymchwilwyr ym mhob man.’ Mae’r adroddiad a’r astudiaethau achos yn amlygu amrywiaeth y manteision a gyflawnwyd gan WHELF, yn eu plith:

  • costau cyflenwyr is – arbedwyd £226,000 yn 2015-17
  • costau caffael is – arbedwyd £55,000
  • system o ansawdd uchel ar sail manyleb uchel ar gyfer yr holl sefydliadau cyfranogol
  • rhyngwyneb blaen a chefn hollol ddwyieithog sy’n galluogi staff a defnyddwyr i gael mynediad i’r system yn nwy iaith swyddogol Cymru
  • arbenigedd a rennir i ddatblygu nodweddion, hyfforddiant a gwelliannau
  • integreiddio gwell â systemau TG eraill
  • rhyngwynebau mwy hyblyg drwy ddarparu system yn y cwmwl
  • yr offer cofnodi a dadansoddi diweddaraf i resymoli llifoedd gwaith

Meddai Chris Keene, Pennaeth Dyfodol Llyfrgelloedd ac Ysgolheigaidd yn JISC, “Roedd yn bleser gan JISC gefnogi’r adroddiad annibynnol ar brosiect system rheoli llyfrgell a rennir WHELF – prosiect a gefnogwyd gan JISC ers y dechrau, drwy astudiaeth dichonoldeb yn 2012. Yn ogystal â dangos y gwerth amlwg y gellir ei gyflawni drwy gydweithio, mae’r adroddiad hwn hefyd yn darparu methodoleg y gall gwasanaethau llyfrgell eraill ei defnyddio”. Meddai Graham Hay o Cambridge Econometrics, “Mae dulliau ansoddol o werthuso effaith rhoi system rheoli llyfrgell a rennir ar waith drwy gydweithio yn gymharol annatblygedig. Drwy ddarparu fframwaith strwythuredig ar gyfer nodi effeithiau mabwysiadu system rheoli llyfrgell a rennir newydd drwy weithio fel consortiwm, a dull dichonol o’u gwerthuso, mae’r adroddiad hwn yn ychwanegiad newydd at yr ymchwil sy’n bodoli yn y maes hwn. Mae’r dull a gyflwynir yn yr adroddiad yn darparu set o offer a fframweithiau y gall sefydliadau addysg uwch eu haddasu i gyd-fynd â’u hamgylchiadau penodol.” Yn ogystal, gellir mireinio’r dull wrth i ragor o wybodaeth, a gwybodaeth well, ddod ar gael dros amser, gan ganiatáu iddo ddatblygu a pharhau’n berthnasol yn y dyfodol.” Mae’r adroddiad ar gael yma Manylion cyswllt WHELF: Gareth Owen, Rheolwr Rhaglen y System Rheoli Llyfrgell a Rennir, oweng12@cardiff.ac.uk  Ffôn: 02922510189 Jisc: Chris Keene, Pennaeth dyfodol llyfrgelloedd ac ysgolheigaidd JISC, chris.keene@jisc.ac.uk, 0203 006 6047. Cambridge Econometrics: Graham Hay, Cyfarwyddwr Cysylltiol, CE, gh@camecon.com, Ffôn: 01223 533100[:]