Cynhelir Colocwiwm WHELF ar-lein eleni dros ddau hanner diwrnod, ddydd Mawrth 14 a dydd Mercher 15 Mehefin 2022, 9:30 – 13:00.
Y thema eleni yw:
Aduno ein cymunedau: Ein Llyfrgelloedd, ein Defnyddwyr a’n Hunain
Bydd y gynhadledd yn dathlu aduniad ein proffesiwn ar ôl cyfyngiadau Covid-19, gweithio gyda’n gilydd unwaith eto yn ein llyfrgelloedd a mabwysiadu arferion gorau o’r dechnoleg rithwir newydd rydym ni wedi addasu iddi dros y 2 flynedd ddiwethaf. Nod ein digwyddiad eleni yw croesawu wynebau cyfarwydd yn ôl a chyflwyno cydweithwyr newydd sydd wedi ymuno â’n cymuned yn ystod y cyfnod digynsail hwn i’r ystod eang o weithgaredd sydd ar waith yn WHELF.
Reuniting-our-Communities-2022-–-programmeAm fwy o wybodaeth cysylltwch â Gill Morris, Swyddog Datblygu WHELF.
Trefnir y digwyddiad WHELF hwn gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Unwaith eto, diolchiadau diffuant i’r tîm yn Jisc Cymru am y cymorth technegol.