Colociwm Ar-lein WHELF 2021 – Galwad am bapurau
Cynhelir Colociwm WHELF ar-lein ar ddydd Mercher 9fed Mehefin 2021.
Thema cynhadledd eleni yw:
Yno ac yn ôl eto: defnyddio gwersi a ddysgwyd o’r pandemig i lunio gwasanaethau llyfrgell y dyfodol.
Byddem yn croesawu cyflwyniadau ar sut mae gwasanaethau wedi addasu a beth y byddwn yn parhau i’w wneud yn wahanol yn y blynyddoedd i ddod. Gallai enghreifftiau gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
· Darparu addysgu a chefnogaeth yn y rhith amgylchedd
· Casglu adborth myfyrwyr am eu profiadau
· Adolygiad o ddulliau rheoli casgliadau a llifiau gwaith caffael
· Ail-feddwl y defnydd o ofod
Gall cyflwyniadau fod tua 20 munud o hyd, er ein bod yn ceisio bod yn hyblyg. Bydd amser hefyd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.
Mae croeso ichi ffrydio eich cyflwyniad yn fyw neu ei recordio ymlaen llaw. Mae gwahoddiad hefyd i Grwpiau WHELF ddanfon cyflwyniadau ar ddatblygiadau diweddar.
Darperir canllawiau ar gyfer cyflwynwyr, gan gynnwys cyngor technegol, cyn bo hir.
Os hoffech gyflwyno cynnig, dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
· Rhestr o enwau cyflwynwyr a’r sefydliad y maent yn gweithio ynddo
· Teitl a disgrifiad byr o’ch papur.
· Hyd y cyflwyniad.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 23ain Ebrill 2021
Dylech e-bostio cyflwyniadau at:
Claire.Wotherspoon@open.ac.uk neu Jennifer.Markey@open.ac.uk
Trefnir y digwyddiad WHELF hwn gan Brifysgol De Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru a’r Brifysgol Agored.