Mae Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF yn trefnu ail sesiwn DysgGwrdd ar y thema dysgu ac addysgu cynhwysol a gobeithir ei chynnal ym mis Medi.

Bydd y sesiwn DysgGwrdd hon yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni feithrin a galluogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein cymunedau dysgu. Hoffem wahodd cynigion ar gyfer sgyrsiau byr sy’n para am oddeutu 20 munud ar y pwnc hwn.

Gallai themâu posib gynnwys:

  • Amgylchedd dysgu
  • Rhestrau darllen
  • Dylunio a chyflwyno dysgu ac addysgu
  • Partneriaeth â myfyrwyr a staff i wella profiad y myfyrwyr ac ymdeimlad o berthyn
  • Asesu a chyrhaeddiad
  • Marchnata a chyfathrebu

Byddem yn benodol yn croesawu cynigion sy’n cynnwys cyflwynwyr sy’n fyfyrwyr neu adborth gan fyfyrwyr.

Os hoffech chi gyflwyno cynnig, anfonwch y teitl a throsolwg byr o gynnwys eich sgwrs at Rebecca Mogg ac Allison Jones (librarytraining@cardiff.ac.uk) erbyn dydd Gwener 20 Awst