Mae Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF yn trefnu sesiwn DdysgGwrdd a gynhelir ar 1 Medi 2022 a’r thema fydd Penderfyniadau ar sail data.

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi mai Amy Stubbing (@Amyodo), awdur Data Driven Decisions, fydd ein prif siaradwr yn y digwyddiad.

Ar hyn o bryd, mae Amy yn Arweinydd Ymgysylltu Academaidd ym Mhrifysgol Westminster lle mae’n gyfrifol am gynllunio strategol a datblygu’r ddarpariaeth cymorth dysgu ar gyfer y brifysgol gan gynnwys cysylltu academaidd a datblygu dysgu academaidd.

Mae diddordeb Amy ym maes data a’i ddefnyddio i lywio penderfyniadau a datblygiadau gwasanaeth er mwyn gwella profiad defnyddwyr wedi bod yn rhan graidd o’i gyrfa. Mae’n angerddol am ddatblygu llythrennedd data ac ymgorffori arferion data ym mhob proses benderfynu ac o ganlyniad datblygodd ei phecyn cymorth Data Driven Decisions ar gyfer llyfrgelloedd. Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o lyfrgelloedd mewn prifysgolion i ddechrau ymgorffori diwylliant o benderfyniadau ar sail data ac mae wedi defnyddio ei phrofiad amrywiol o addysgu llythrennedd data i ddatblygu ei phecyn cymorth ymhellach gan arwain at y llyfr hwn.

Mae Data-Driven Decisions: A Practical Toolkit for Library and Information Professionals yn ganllaw syml, heb jargon i ddefnyddio data wrth wneud penderfyniadau mewn gwasanaethau llyfrgell. Mae’r llyfr yn tywys darllenwyr gam wrth gam drwy bob cam o weithredu, adolygu ac ymgorffori penderfyniadau ar sail data yn eu sefydliad, gan roi delweddau hygyrch, cyngor ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i gefnogi darllenwyr ar eu taith ddata. Gan ddechrau gyda defnyddio data ar lefel sylfaenol iawn, mae’r awdur yn creu fframwaith i adeiladu sgiliau a gwybodaeth yn araf nes bod y darllenydd yn gyfforddus i ddefnyddio data hyd yn oed at ddibenion cymhleth.

Mae Amy wedi gweithio gydag amrywiaeth o lyfrgelloedd mewn prifysgolion i ymgorffori diwylliant o benderfyniadau ar sail data a bydd ei sgwrs yn canolbwyntio ar sut gallwn ni gefnogi cydweithwyr trwy ddefnyddio ymagwedd gyson at ddata a thrwy ei drafod mewn iaith gyson.

Hoffem wahodd eich cynigion ar gyfer sgyrsiau byr sy’n para am hyd at 20 munud ar y pwnc hwn. Ydych chi, neu’ch sefydliad, wedi llwyddo i ddefnyddio data fel sail i’ch penderfyniadau? Os hoffech chi gyflwyno cynnig, anfonwch deitl a throsolwg bras o gynnwys eich sgwrs at Allison Jones (allison.jones@abertawe.ac.uk) a José López Blanco (jose.lopezblanco@southwales.ac.uk) erbyn dydd Gwener 8 Gorffennaf 2022.