Grŵp Dysgu ac Addysgu TeachMeet WHELF : Cymrodoriaethau Advance HE (AAU)9 Mawrth 2023
Ymunwch â ni ar gyfer y cyfarfod dysgu ar-lein rhad ac am ddim hwn lle bydd cydweithwyr yn rhannu eu cynghorion a’u profiadau ar wneud cais am aelodaeth AAU. Bydd y sesiwn hon yn esbonio’r broses o wneud cais am lefel o gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch ac yn helpu cydweithwyr i fagu hyder gyda’r cynllun. Mae wedi’i anelu at gydweithwyr sydd ar wahanol lefelau, o’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch i’r rhai sydd yn y broses o wneud cais.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Sarah George (Llyfrgellydd Pwnc, Prifysgol Bradford) sy’n Gymrawd Addysgu Cenedlaethol ac yn Uwch Gymrawd.
- Stuart Abbott a Chris Dennis (Arbenigwyr Sgiliau Academaidd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd) sy’n fentoriaid ac aseswyr Cymrodoriaeth yr AAU. Maent hefyd yn Ymgynghorwyr Addysgu ar y cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch.
- José López-Blanco (Llyfrgellydd Cyfadran, Prifysgol De Cymru) a benodwyd yn ddiweddar yn fentor ac aseswr Cymrodoriaeth yr AAU. Bydd ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar ymarfer myfyriol.
- Helen Bader a Sally Brockway (y ddau yn Benaethiaid Cynorthwyol Gwasanaethau Llyfrgell, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) a fydd yn rhannu eu profiadau o wneud cais i fod yn Gymrawd Cyswllt.
Cynhelir y Teachmeet ar Zoom a byddwch yn derbyn y ddolen ymuno drwy ebost ar ôl cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gysylltu â ni am y digwyddiad, ebostiwch Rebecca Mogg