Eleni bydd Grŵp EDI WHELF yn cynnal digwyddiad ‘Teachmeet’ byrrach ddydd Mercher 26 Ebrill 2023. Cynhelir y gynhadledd Lleisiau Eithriedig llawn yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2023.

Bydd y Teachmeet agosatoch, gweithredol yn cael ei hyrwyddo i aelodau WHELF yn unig, a’r gobaith yw arddangos rhywfaint o’r arfer EDI da sydd ar waith yng Nghymru. Bydd y digwyddiad (sy’n debygol o bara 2 awr neu lai) yn bennaf yn cynnwys carwsél o sgyrsiau grŵp bach thematig a gaiff eu llywio.

O ganlyniad, byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi sbario munud neu ddau i gwblhau’r arolwg canlynol. Mae angen eich help chi ar gyfer:

· pennu pynciau i’n grwpiau bach

· canfod cyflwynwyr 5 munud/hwyluswyr posibl ar gyfer y grwpiau hyn

· amcangyfrif y nifer o gynrychiolwyr fydd yn bresennol

Diolch yn fawr

Grŵp EDI WHELF